Mark Tudor
Mae Mark yn Gyfarwyddwr Cwmni, yn ŵr graddedig MBA ac yn Farchnatwr Siartredig gyda llwyddiant profedig mewn rheoli cynnyrch, marchnata strategol a datblygu busnes strategol.
Mae gan Mark dros 25 o flynyddoedd o brofiad ym maes marchnata a gwerthu, mewn sectorau sy’n cynnwys telegyfathrebu, llywodraeth leol, peirianneg a dyfeisiau meddygol.
Mae gan Mark MBA o Brifysgol Morgannwg a gradd BSc (Anrhydedd) mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Cymru.
Yn ogystal â hyn, mae gan Mark ddiploma mewn Marchnata o’r Sefydliad Marchnata Siartredig, Tystysgrif Ôl-radd mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy ac mae wedi bod yn rhan o’r Sefydliad Marchnata Siartredig ers dros 24 o flynyddoedd.
Mae Mark yn Gymrawd o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac mae ganddo Dystysgrif Lefel 7 CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol.
Mae ei feysydd arbenigol yn cynnwys:
• Mynediad i’r Farchnad a Strategaethau Twf
• Datblygu Busnes
• Rheoli Cynnyrch
• Strategaeth Marchnata
• Rheoli Tendrau a Chynigion
• Brandio a Chyfathrebu Marchnata
• Rheoli Cysylltiadau
• Dadansoddi’r Gadwyn Gwerth
Mae Mark yn mentora unigolion ar bob lefel o’r sefydliad ac mae’n gweithio gyda BBaChau i ddarparu datrysiadau twf cynaliadw.
-
EnwMark Tudor
-
Enw'r busnesMark Tudor Consulting
-
RôlPerchennog
-
LleoliadGwent