Mark Edwards - The Retail Guy
Profiad -
• 35 mlynedd o brofiad o fewn y sector adwerthu -
• 7 mlynedd o brofiad fel perchennog busnes, a hanes amlwg o gyflawni twf ac elw
• 15 mlynedd o brofiad fel rheolwr rhanbarthol i safleoedd gwahanol
• Profiad o fod yn rheolwr llinell, rheoli timau hyd at 70 o bobl a oedd yn uniongyrchol atebol i mi, a thimau ehangach o dros 300
• Profiad o gyflwyno rhaglenni newid
• Profiad rhyngwladol ledled Awstralia a Seland Newydd
Wedi cynorthwyo dros 300 o bartneriaethau ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol er mwyn cyflawni lefelau gwasanaeth rhagorol ac elw.
Rwy'n Rheolwr/Ymgynghorydd Busnes gyda 30 mlynedd o brofiad ar bob agwedd ar reoli busnes a darparu cyllidebau gwerthiant. Rwy'n drefnus, yn canolbwyntio ar bobl ac mae gennyf brofiad o adnoddau dynol a rheoli pobl yn gyffredinol, yn cynnwys bod yn rheolwr llinell i gydweithwyr. Rwy'n cyfathrebu'n dda iawn, ac mae gennyf sgiliau rhyngbersonol gwych. Rwy'n hyderus wrth gydweithio gyda rhanddeiliaid gwahanol ac o fewn busnesau o fodloni targedau a rennir. Gallaf gynnig gwasanaeth cwsmer o ansawdd arbennig gydag asiantaethau allanol a chyrff proffesiynol i sicrhau cydymffurfiaeth ar draws gweithrediadau busnes. Rwy'n hyderus o ran fy ngallu i arwain a datblygu swyddogaethau busnes ac adnoddau'n strategol yn yr ysgol a'i hystadau.
Ddiwedd mis Mawrth 2022, gwerthais fuddiannau fy musnes er mwyn canolbwyntio ar reoli'r prosiect o adeiladu ein cartref newydd. Ers hynny, rwyf wedi bod yn rhedeg fy musnes ymgynghori fy hun yn rhan amser, yn darparu gwasanaethau i siopau adwerthu ym mhob maes rheoli busnes. Mae cyfran sylweddol o fy ngwaith yn cynnwys datblygu cysylltiadau gyda chleientiaid newydd, a rhai presennol, a goruchwylio prosiectau o safbwynt rheolwr. Cyn hyn, roeddwn yn Gyfarwyddwr Adwerthu/Perchen Siop yn Specsavers. Yno, cyflwynais ddulliau gweithio newydd o fewn swyddogaethau'r busnes er mwyn gwella profiad y cwsmer a lleihau costau.
Rwy'n gallu cynnig arbenigedd o ran arwain a rheoli swyddfa, eiddo a staff i wella eu heffeithiolrwydd, ac yn sgil hynny, codi safonau dysgu o fewn yr ysgol. Rwy'n gyfarwydd ag arwain tîm a gallu gyrru newid cadarnhaol o fewn busnes. Rwyf hefyd yn gyfforddus o ran defnyddio'r adnoddau perthnasol i gefnogi amcanion dysgu'r ysgol.
Rwy'n fedrus o ran modelu data i gyfathrebu syniadau cymhleth ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd syml, neu ffurflenni graff. Rwy'n hyddysg mewn cyfrifiadura, ac mae gennyf brofiad o ddefnyddio amrywiaeth o raglenni Microsoft, yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Teams ac Outlook, yn ogystal â rhaglenni unigryw, mewnol.
Sgiliau/Cryfderau.
Sgiliau cyfathrebu, meddwl yn strategol, sgiliau dadansoddi cryf, sgiliau pobl, dylanwadu'n gryf, sgiliau rhyngbersonol, arwain, yn gallu rheoli newid, yn canolbwyntio ar gwsmeriaid, yn gallu troi cynllun cymhleth yn gynllun syml.
Cymwysterau/ Cyflawniadau.
Cwrs mentora 2019.
Rhagoriaeth BTEC mewn Rheoli ac Arwain Adwerthu 1992 - Rheoli newid, Marchnata, Cyllid a chostau, Recriwtio a Dethol, Cyfraith Cyflogaeth.
Cyrsiau Cyfraith Cyflogaeth amrywiol i lefel uwch.
-
EnwMark Edwards - The Retail Guy
-
RôlMentor