Ruth Lloyd-Williams

Dim mwy o boeni am sut i ddatrys problem neu chwalu rhwystrau. Cyflwynwch eich her a bydd Ruth Lloyd-Williams yn dod o hyd i’ch datrysiad. Wedi ymrwymo i lwyddiant proffesiynol, personol, cymdeithasol ac emosiynol, sylfaenodd Ruth ‘Network She’ yn 2007, gan ddarparu cymorth i’w merch, Rhian, ar ei thaith i ddod yn entrepreneur, sydd wedi ennill gwobrau. Heddiw, mae’r adnodd, sy’n benodol ar gyfer merched ym myd busnes, yn hynod boblogaidd.

Trwy gyfrwng Network She, mae Ruth yn creu platfformau, yn agor drysau ac yn arwain y ffordd at ddatrysiadau ac adnoddau i helpu merched i yrru eu busnes ymlaen, ble bynnag y maent ar eu taith.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad ym maes hysbysebu byd-eang a chwmnïau fferyllol, mae Ruth yn deall pwysau byd busnes ac yn gwybod mor bwysig yw gofalu am eich hun a’ch busnes. 

Ei phrofiad amlwg o ddarparu’r cyfuniad o ddatblygiad personol a phroffesiynol mewn modd creadigol yw gwraidd llwyddiant ei chwsmeriaid. Yn ychwanegol at hynny, mae synnwyr digrifwch direidus a gonestrwydd Ruth, sy’n halen y ddaear, yn golygu y byddwch yn cael hwyl ac yn gallu bod yn gwbl sicr fod eich buddion yn ganolog i fwriad Network She. 

Yn wraig, yn fam ac yn fam-gu drwsiadus, ac yn ffan gydol oes o Manchester City, mae Ruth yn dystiolaeth amlwg y gall busnes a phleser gyd-fyw yn dda.


 

 

 

Gair i Gall

Pan mae rhywun yn dweud “rydw i’n union fel yr ydw i’n ymddangos”, rhedwch filltir.
Mae pobl yn prynu pobl – byddwch yn chi eich hun.
 

Ruth Lloyd-Williams
RLW
  • Enw
    Ruth Lloyd-Williams
  • Enw'r busnes
    Network She HCP Ed-UK www.hcp-ed.co.uk
  • Rôl
    Cyfarwyddwr, perchennog a sylfaenydd y cwmni
  • Lleoliad
    Sylw cenedlaethol – wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru