Ian Cooke-Tapia

Ian Cooke-Tapia yw sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Cooked Illustrations, sef asiantaeth cyfathrebu gweledol sy’n arbenigo mewn cyfathrebu gwyddoniaeth. Mae cenhadaeth y cwmni’n syml: helpu ymchwilwyr o amgylch y byd i esgor ar effaith ddiwylliannol, wyddonol ac economaidd yn eu hieithoedd brodorol trwy ddefnyddio cyfathrebu gweledol.

Dechreuodd Ian weithio yn 2016 fel darlunydd croniclo ar deithiau maes gwyddoniaeth drofannol. Buan y sylwodd fod gwaith ymchwil yn cael ei wneud o amgylch pobl na fyddant byth bythoedd yn gweld ei ganlyniadau.

Cyn i Ian ddechrau ei fusnes darlunio, yn gyntaf ceisiodd agor hwb rhannu mannau gwaith ar gyfer y celfyddydau, a drodd yn fuan iawn yn Ffangaí, sef rhwydwaith digidol i artistiaid. Fe wnaeth her y prosiect hwnnw dywys Ian at y byd cyhoeddi digidol, gan arwain at greu cylchgrawn digidol byrhoedlog, a hefyd cymerodd ran mewn rhwydweithiau rhyngwladol yn ymwneud â rhannu mannau gwaith a grym sefydliadau diwylliannol mewn adfywio trefol.

Ers 2021, mae Cooked Illustrations wedi bod yn gweithio’n rhyngwladol gydag ymchwilwyr, sefydliadau addysgol, cwmnïau preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Rydym yn cynnig gwasanaethau creadigol, gan fynd ati’n benodol i geisio datrys anghenion cyfathrebu cymhleth rhai a chanddynt wybodaeth gymhleth gyda’r potensial i greu effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd sylweddol.


Mae Cooked Illustrations yn cynnig gwaith a chyfleoedd gyrfa gynnar i raddedigion darlunio, animeiddio a dylunio graffeg yn ardal Caerdydd.

Mae Ian yn hanu o Panama. Mae hefyd yn gysylltiedig â phrosiect i ddod o hyd i ffynonellau cyllid ar gyfer prosiectau amaethyddiaeth adfywiol yng Nghanol Panama.
 

Gair i Gall

Gwrandewch yn ofalus. Mae’r gwerth a’r cyfleoedd yn y pethau a ddywedant ac na ddywedant.

Ian Cooke-Tapia
  • Enw
    Ian Cooke-Tapia
  • Enw'r busnes
    Cooked Illustrations
  • Rôl
    Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol
  • Lleoliad
    Gaerdydd