Leighton Ponting

Gadewais yr ysgol gyda llond llaw o gymwysterau a dechreuais weithio’n syth ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid ym 1986, lle dysgais y pethau hanfodol am weinyddu swyddfa. Yn sgil hyn, llwyddais i gael fy swydd gyntaf mewn ffatri ac yna fel gweinyddwr gwerthu gyda chwmni telathrebu, gan gamu ymlaen yn raddol i fod yn rheolwr gwerthu ar gyfer y DU o fewn yr un cwmni.

Yn sgil hyn, dysgais y gall gwaith caled a pharodrwydd i ddysgu dynnu sylw pobl atoch, ac fe wnaeth fy helpu i gamu ymlaen yn fy ngyrfa.

Deuthum yn Rheolwr Gwerthu, gan ofalu am 12 o staff. Ond roedd yn well gennyf weithio ar y rheng flaen, gan siarad a chyfarfod â chwsmeriaid wyneb yn wyneb – rhywbeth rydw i wedi’i wneud byth ers hynny i wahanol gwmnïau.

Drwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi dysgu gan deulu, cyfeillion a chydweithwyr hŷn, iau a mwy profiadol, ac mae hyn wedi fy helpu i garu’r hyn a wnaf. Gwych fyddai meddwl y gallwn i helpu rhywun yn yr un ffordd.

Cryfderau Allweddol:
Rheoli Cyfrifon Gwerthu, Gwerthiannau Busnes Newydd, Sgiliau Cyfweld, Trafod, Rhwydweithio a Thechnegau Arddangos, Rheoli Busnes.

 

Leig
  • Enw
    Leighton Ponting
  • Enw'r busnes
    Chipside Ltd
  • Rôl
    Rheolwr Datblygu Busnes – Cenedlaethol
  • Lleoliad
    Wiltshire and RCT