Amdanom ni
Beth ydy Mentora Busnesau?
Perthynas gyfrinachol rhwng dau berson ydy Mentora Busnesau, lle mae’r unigolyn yn defnyddio person mwy profiadol i bwrpas trafodaeth ac i gael arweiniad. Mae hon yn berthynas warchodol ac anfeirniadol, sy’n hybu dysgu, arbrofi a datblygu ar raddfa eang. Mae’n berthynas wedi’i sefydlu ar barch un person at y llall, ac ar ymddiriedaeth.Beth i’w ddisgwyl gan y gwasanaeth
Fel mentorai, gallwch ddisgwyl:
- Clywed oddi wrthym o fewn 7 diwrnod wedi ichi fynegi diddordeb yn Mentora Busnesau yng Nghymru
- Derbyn arolwg llawn o’ch busnes a’i anghenion
- Cael eich cyplysu gyda mentor profiadol addas neu gael eich cyfeirio at ffynhonnell cyngor a chymorth arall.
Fel mentor, gallwch ddisgwyl:
- Clywed oddi wrthym o fewn 7 diwrnod wedi ichi fynegi diddordeb yn Mentora Busnesau yng Nghymru
- Cael cyfarfod cychwynnol gyda Swyddog Mentora arbenigol
- Mynychu gweithdy cychwynnol fydd yn egluro sut mae Mentora Busnesau yng Nghymru’n gweithio
- Derbyn cymorth a chefnogaeth drwy gydol eich perthynas gyda ni