Keith Stringer

Rwyf wedi dal swyddi rheolaethol mewn nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu yn y diwydiant anrhegion ac ategolion ffasiwn. Ers 30 mlynedd bûm yn ymwneud yn weithredol â masnach ryngwladol. Heblaw am swyddi rheoli gwerthiant cyffredinol a chyfrifon allweddol, gan gynnwys NPD a rheoli gwerthwyr, mae fy mhrif ffocws wedi bod ar ddatblygu gwerthiant tramor. Mae fy mhrofiad yn cwmpasu chwilio am a rheoli asiantau a dosbarthwyr, gosod cyllidebau a strategaeth allforio. Rwyf hefyd wedi bod yn ymwneud llawer iawn â threfniadaeth a phresenoldeb mewn sioeau masnach tramor, gan gynnwys yn yr UDA, Asia ac Ewrop.
Ers symud i Ogledd Cymru yn 2011, fy mhrif nod fu cynorthwyo busnesau bychan i gael mynediad i’r farchnad allforio, neu, i’r rheiny sydd eisoes yn allforio, cynyddu eu gwerthiant er mwyn gwneud elw.

Fy mhrif gryfder yw trefniadaeth a “meddwl y tu allan i’r bocs”. Rwy’n hoffi’r her o weithio gyda busnesau sydd ar wahanol gamau yn eu datblygiad. Rwyf hefyd yn mwynhau ymwneud ymarferol â chleientiaid yn hytrach na dim ond bod â rôl ymgynghorol. Mae’r mwyafrif o gleientiaid yr ydwyf yn gweithio gyda nhw angen yr ymroddiad yma gan nad oes ganddynt  brin ddim profiad o fasnachu tramor. Rwyf hefyd yn teithio i’r farchnad ar ran cleientiaid, yn enwedig i sioeau masnach tramor.

Credaf mai un o’r pethau y byddaf yn gallu’i gynnig i rywun y byddaf yn ei fentora, yw’r profiad busnes cyffredinol sy’n dod o weithio mewn nifer amrywiol o swyddi o fewn y cwmnïau a’m cyflogodd. Hefyd, mae  pob un o’m cyn-gyflogwyr wedi bod yn fusnesau teuluol, ac oherwydd natur y busnesau hynny roedd gofyn i mi ymrwymo’n llwyr i’w prosiect. Nid ydw i’n berson “9-5”. 

Rwyf wirioneddol yn mwynhau’r agwedd prosiect o’m gwaith - yn enwedig os yw rhywun yn dod ataf i â chynnyrch unigryw y maent angen cymorth i’w ddatblygu.

Gair i Gall

Paratoi cynllun o’r hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni, mapio lle’r ydych ar hyn o bryd, lle’r ydych eisiau ei gyrraedd a gosod amserlen realistig ar gyfer y cynllun.

Keith Stringer
Keith
  • Enw
    Keith Stringer
  • Enw'r busnes
    kps Businesshelpline
  • Rôl
    Cefnogaeth Fusnes Masnach Rhyngwladol
  • Lleoliad
    Conwy