Nicola Jayne John

Rwyf wedi gweithio yn y sectorau gweithgynhyrchu, adeiladu a hyfforddi ers dros 30 mlynedd, gyda dros 15 mlynedd o rolau arwain a chyfarwyddo. Mae gen i brofiad helaeth o hyfforddi a datblygu, ar ôl gweithio fel hyfforddwr rheoli am 7 mlynedd a hyfforddi a datblygu fy staff fel arweinydd sefydliadau. Rwyf yn arweinydd sy’n cael ei yrru gan ganlyniadau, gyda phrofiad o wella prosesau darbodus, strategaeth cydlyniad system a thwf busnes. Rwyf wedi ysgrifennu gweithdrefnau a pholisïau busnes hawdd eu defnyddio ar gyfer ISO, H&S, cydymffurfiaeth amgylcheddol, ansawdd a gweithgynhyrchu sy’n hawdd eu dilyn, yn gall ac yn darparu strwythur i gwmnïau er mwyn cynorthwyo twf a sicrhau’r elw mwyaf posib. Rwyf wedi treulio dros 15 mlynedd yn llunio cynigion tendro mewn adeiladu a gweithgynhyrchu ar gyfer gwaith yn y sector tai cymdeithasol ac rwyf yn hyddysg mewn rheoli prosiectau, cydlyniad KPI, aml-greu yn y gweithlu a lleihau gwastraff er mwyn cynorthwyo effeithlonrwydd. Rwyf yn defnyddio’r damcaniaethau rheoli roeddwn i’n arfer eu haddysgu mewn modd hawdd i ddysgwyr ei ddeall o fewn lleoliad busnes er mwyn darparu strwythur i gynllunio strategaeth a thwf cwmni. Gwn beth yw pŵer mentor da gan fy mod wedi gwneud defnydd ohonynt yn ystod fy ngyrfa ac wedi darparu gwasanaethau mentora ar gyfer cydweithwyr, staff ac arweinwyr busnes eraill yn fy rôl ymgynghori.

Gair i Gall

Defnyddio’r cylch gwella parhaus  ar gyfer pob maes o fewn y busnes “Cynllunio, gweithredu, gwirio, ymateb”
O ran strategaeth, cyllid, gweithrediadau, datblygiad staff ac yn y blaen,
mae’n effeithiol waeth pa fusnes rydych yn rhan ohono.
Talu sylw arbennig i’r cam adolygu/gwirio er mwyn sicrhau gwelliant parhaus o fewn holl agweddau’r cwmni.
 

Nicola Jayne John
Nicola
  • Enw
    Nicola Jayne John
  • Enw'r busnes
    NJJ Business Solutions Ltd
  • Rôl
    Perchennog
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin