Lladrata Hawlfraint
Lladrata, neu dramgwyddo, hawlfraint yw amharu ar hawlfraint unigolyn neu sefydliad. Mae’n golygu defnyddio, heb awdurdod, ddefnyddiau megis testun ysgrifenedig, ffotograffau, fideos, cerddoriaeth, meddalwedd a chynnyrch gwreiddiol eraill. Gyda dyfodiad y rhyngrwyd, a ffyrdd haws o rannu defnyddiau, daeth lladrata hawlfraint yn fwy cyffredin.
Effeithiau
Pan fydd defnyddiau o dan hawlfraint yn cael eu rhannu’n rhad ac am ddim ar y rhyngrwyd, nid yw deilydd yr hawlfraint yn cael ei daliadau hawlfraint. Os yw defnyddiau o dan hawlfraint yn cael eu gwerthu drwy sianelau anghyfreithlon, mae’r elw yn aml yn mynd i ariannu troseddau eraill.
Rhwystro
Rhag amharu ar eich gwaith ar lein, cyfyngwch ar y mannau lle y gellir ei weld. Gall delweddau dyfrnodau hefyd fod o help i olrhain eich gwaith yn ôl atoch chi. O ran cerddoriaeth a ffilmiau, dylid cyfyngu ar y copïau rhagolwg a’u rhannu’n ddarbodus. Rhywun yn gollwng copi rhagolwg sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o gyhoeddi heb ganiatâd.
Riportio
Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Safonau Masnach lleol am gyngor ar dramgwyddiadau Eiiddo Deallusol.