Troseddau Ffugio

Colourful sunglasses

Nwyddau ffug yw rhai sydd wedi'u cynhyrchu i ddynwared, fel y gellir eu gwerthu'n dwyllodrus fel rhai dilys. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried nad oes neb yn dioddef wrth brynu nwyddau ffug, mae rhywun yn dioddef bob tro. 

Effeithiau 

Gan fod nwyddau ffug o salach ansawdd na'r nwyddau dilys, gall enw da busnesau ddioddef pan fo'r nwyddau ffug yn torri. Mae hefyd yn effeithio ar ffrwd refeniw busnesau. Nid yw busnesau dilys yn elwa o gwbl pan fydd nwyddau ffug yn cael eu gwerthu 

Rhwystro

Dylai perchnogion brandiau gofrestru eu nodau busnes yn yr awdurdodaeth gyfreithiol lle mae'r cynnyrch yn cael ei werthu a hefyd yn yr awdurdodaeth lle mae'n cael ei gynhyrchu. Dylai perchnogion nodau masnach hefyd fod yn wyliadwrus a chadw llygad ar wefannau lle mae nwyddau ffug yn cael eu gwerthu. 

Riportio

Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Safonau Masnach lleol am gyngor ar dramgwyddiadau Eiddo Deallusol 

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho