Lladrata cerbydau masnachol neu ohonyn nhw

CCTV Cameras

Gyda chymaint o fusnesau'n defnyddio cerbydau masnachol, a llawer o staff yn defnyddio'r un cerbydau, mae’n gymharol hawdd lladrata a gwneud niwed i gerbydau masnachol 

Effeithiau

Busnesau megis cwmnïau tacsis, cludiant neu ddanfon sy’n aml yn dioddef waethaf o ladrata cerbydau masnachol. Bydd cwsmeriaid yn cael eu siomi pan na chedwir at apwyntiadau a danfoniadau ac efallai y collir cysylltiadau allweddol. 

Rhwystro

Gallai cyfyngu ar faint o’r staff sy’n gallu cael yr allweddi fod o help rhag i gerbydau masnachol gael eu lladrata a'u niweidio. Gallai sicrhau fod ceir yn cael eu parcio mewn man parcio diogel ac nid y tu allan i gartrefi staff hefyd fod o gymorth gyda diogeledd.  

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho