Strategaeth Arloesi newydd i Gymru
Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Arloesi newydd i Gymru bellach yn fyw. Mae’r strategaeth draws-lywodraethol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, yn anelu at ddatblygu diwylliant arloesi bywiog mewn Cymru sy’n gryfach, decach a gwyrddach. Cewch ddweud eich dweud drwy fynd i’r wefan hon. Os hoffech gyfrannu eich safbwyntiau yn bersonol, beth am ddod i un o’n digwyddiadau ymgynghori? Ebostiwch strategaetharloesi@llyw.cymru i gofnodi eich diddordeb.