Mae Menter Vanguard yn rhwydwaith o oddeutu pedwar deg o ranbarthau Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio eu strategaethau arbenigo clyfar er mwyn gwella cystadleurwydd eu prif sectorau diwydiannol. Nod arall yw cydweithio er mwyn cefnogi datblygiad yn y nifer sy’n elwa ar dechnolegau a chynhyrchion newydd ac arloesol. Mabwysiadodd Cymru Arbenigo Clyfar yn gynnar ac mae Cymru’n Arloesi, ein Strategaeth Arloesi newydd, sy’n seiliedig ar genhadaeth yn cyd-fynd yn dda â’r broses o ddatblygu’r...
Lansio cyllid newydd gwerth £30m i hybu arloesedd yng Nghymru
Bydd Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS), sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, yn helpu busnesau, sefydliadau ymchwil, academia a chyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i arloesi, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a gwella sgiliau, gan helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a’r capasiti i gefnogi twf cynaliadwy. Bydd buddsoddiad yn targedu gweithgareddau fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi...