Hoffech chi ymuno â chynrychiolwyr o sefydliadau Cymreig i fynychu Cyngres y Byd IoT Solutions?
Arloesedd cymorth a cyllid ar gyfer eich busnes
Gall arloesi helpu’ch busnes i fod yn fwy cystadleuol, i gynyddu’i werthiant ac i gipio marchnadoedd newydd. Ydych chi’n fusnes sy’n gysylltiedig â lled-ddargludyddion, electroneg, neu eu cadwyni cyflenwi? Os felly, gallai ein pecyn o gymorth Arloesedd fod ar eich cyfer chi. Rydym yn cynnig: hyd at 8 diwrnod o gymorth wedi’i ariannu’n llawn i gynllunio a gweithredu gwelliannau cynhyrchiant a dylunio cymorth a chyngor arbenigol am ddim i chi fabwysiadu technolegau digidol cyllid arloesi...
Strategaeth Arloesi newydd i Gymru
Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Arloesi newydd i Gymru bellach yn fyw. Mae’r strategaeth draws-lywodraethol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, yn anelu at ddatblygu diwylliant arloesi bywiog mewn Cymru sy’n gryfach, decach a gwyrddach. Cewch ddweud eich dweud drwy fynd i’r wefan hon. Os hoffech gyfrannu eich safbwyntiau yn bersonol, beth am ddod i un o’n digwyddiadau ymgynghori? Ebostiwch strategaetharloesi@llyw.cymru i gofnodi eich diddordeb.
Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru yn dal i gael cyfraniad o 75% at KTP tan Fawrth 2023
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn rhan sylfaenol o’r ymchwil, datblygu ac arloesi a gynigir i fusnesau yng Nghymru a heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n estyn y cynnig tan 2023, er mwyn annog mwy o fusnesau i gydweithio â KTP, i elwa ar y rhaglen a chynyddu twf economaidd a’r effaith gymdeithasol (ar ôl covid). Gyda'r sefyllfa economaidd anodd bresennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% o gostau prosiectau KTP ar gyfer...