Two white men fix a part to a car door

Arloesi gan MST yn sbarduno dylunio pwrpasol ar gyfer ceir rali MK2

Mae Arloesedd SMART wedi helpu MST:

  • I greu dyluniadau pwrpasol diolch i bartneriaeth â chwmni dylunio gweithgynhyrchu
  • Gwella’r broses weithgynhyrchu, gan arbed amser ac arian
  • Ail-lunio a gwella mecanwaith ffenestri
    • Mae MST – sef cwmni dylunio ceir chwaraeon moduro a chyflenwr byd-eang ar gyfer rhannau ceir, sydd wedi’i leoli ym Mhwllheli, Gogledd Cymru – yn gweddnewid car rali clasurol o’r 70au â’u dyluniadau uwch-dechnoleg pwrpasol, diolch i’r gefnogaeth a gawsant trwy raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd.

      Mae Motorsport Tools yn gwerthu rhannau ôl-farchnad, a cheir rali a adeiladir â llaw a gaiff eu llunio’n unol â manylebau cwsmeriaid. Mae’r ceir wedi’u seilio’n fras ar y ceir MK1 a MK2 gwreiddiol a lansiwyd gyntaf ar ddiwedd y 60au a chanol y 70au, yn y drefn honno.

      Mae ceir rali MST yn cynnwys paneli a adeiladir â llaw a dyluniadau mewnol, cewyll rholio, injans a seddi rasio pwrpasol, sy’n golygu bod pob cerbyd yn gwbl unigryw.

      Cysylltodd MST ag Arloesedd SMART yn 2019 am gefnogaeth i ailddylunio system ddrysau’r MK2 – sef fersiwn wedi’i huwchraddio o’r car ‘retro’, sy’n costio tua £100,000.

      Gofynnodd y cwmni am wiriad iechyd dylunio dros gyfnod o dri diwrnod, a gwiriad dylunio gweithrediad i ddilyn. Bu Arbenigwr Arloesedd SMART yn gyfrifol am hwyluso cysylltiad rhwng MST a chwmni dylunio gweithgynhyrchu a fu’n arwain y prosiect.

      Roedd y briff dylunio a roddwyd gan MST i’r cwmni dylunio gweithgynhyrchu yn gofyn iddynt ddod o hyd i ddatrysiad i broblem yn ymwneud â mecanwaith y ffenestri ar ddrysau’r ceir MK2. Llwyddwyd i ailddylunio’r rhan wreiddiol i’w gwneud yn ysgafnach ac yn fwy effeithlon, gan gyfuno’r technolegau a’r deunyddiau efelychu diweddaraf – a gwireddu uchelgais MST i gymryd hen geir ac ychwanegu ymarferoldeb modern.

      Er bod y prosiect MK2 yn parhau yn y camau cynnar o ran cynyddu’r broses a mynd ati i gynhyrchu, mae Carwyn Ellis, Rheolwr Gyfarwyddwr MST, yn credu bod cefnogaeth Arloesedd SMART wedi galluogi’r cwmni i ystyried dulliau arloesol ar gyfer datblygu cynhyrchion newydd, gyda chymorth yr arbenigedd mewn dylunio ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu, gan arbed amser ac arian iddynt.

      Dywedodd Mr Ellis: “Roedd yn gromlin ddysgu dda iawn i bawb sy’n cymryd rhan. Mae llawer o’n prosesau a’n dulliau presennol yn perthyn i’r oes o’r blaen, lle mae’n broses ddwys iawn o lunio â llaw. Mae pob elfen wedi’i gosod â llaw.”

      “Roedd yn ymarfer da o ran dangos i ni sut y gallwn gymryd rhywbeth o’r gorffennol – gyda’r cyfarpar a’r offer sydd ar gael heddiw – a gwella ein prosesau gwaith.”

      Mae gwaith Arbenigwr Arloesedd SMART, a fu’n rhoi cyngor i MST drwy gydol y prosiect, ac sydd wedi gweithredu fel canolwr rhyngddynt a’r cwmni dylunio, wedi cael clod hefyd.

      Ychwanegodd: “Mae’r Arbenigwr Arloesedd yn strwythuredig iawn yn ei phroses. Mae’n gwneud pethau’n glir iawn. Rydym bob amser yn teimlo ei bod o’n plaid ni. Mae’n gefnogol iawn ym mhopeth a wnawn.”

MST CYM
MST CYM