man working

RMGroup yn pacio mwy nag erioed diolch i Arloesedd SMART  

Helpodd Arloesedd SMART RMGroup i:

  • Ddatblygu capasiti i greu peirianwaith soffistigedig yn fewnol
  • Sefydlu adran ymchwil a datblygu er mwyn bod ar flaen y gad gyda syniadau arloesol newydd
  • Creu 31 o swyddi tra medrus

Trodd un o ddarparwyr systemau pacio mwyaf y DU at raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, i’w helpu i gynhyrchu peiriannau yn fewnol a sefydlu adran ymchwil a datblygu, gan greu 31 o swyddi tra medrus.

Mae RMGroup, sydd wedi’i leoli yn y Drenewydd, yn cyflenwi peiriannau pacio awtomatig i weithgynhyrchwyr mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys amaeth, cyflenwadau adeiladu a bwyd a diod. Mae’r cwmni’n cyflogi peirianwyr medrus sy’n datblygu cysyniadau arloesol ac yn cyflwyno systemau wedi’u teilwra i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd.

man working

Cysylltodd RMGroup ag Arloesedd SMART i gael cyngor a chymorth, gan ei fod yn awyddus i fynd y tu hwnt i gyflenwi systemau sy’n seiliedig ar gyfarpar a grëwyd gan gwmnïau eraill, a throi’n gwmni sy’n dylunio ac yn gweithgynhyrchu amrywiaeth ehangach o beiriannau mwy soffistigedig yn fewnol.

Dywedodd Edward Rees, sef rheolwr gyfarwyddwr RMGroup: “Cysylltom ag Arloesedd SMART gan ein bod yn awyddus i ddatblygu nodweddion mwy datblygedig ar beiriant Selio a Llenwi Fertigol (VFFS). Mae’r peiriant yn creu deunydd pacio plastig, a’i lenwi â nwyddau ar yr un pryd, cyn ei selio at ei gilydd, ac roedden ni eisiau canolbwyntio ar ddad-awyru – cael gwared ag aer i greu gwagle sy’n gwrthsefyll dŵr. Mae’n dechnoleg ddatblygedig, ond ni fyddai gennym ni’r gallu i ystyried dylunio system VFFS o’r dechrau’n deg. Roedd cael cymorth ar gyfer y prosiect ymchwil a datblygu wedi ein galluogi i wneud hynny.

“Roedd tîm arloesedd Llywodraeth Cymru yn amhrisiadwy. A hwythau’n gymysgedd o beirianwyr a gwyddonwyr, roedd modd iddynt gynnig barn arbenigol a rhoi barn ar ba elfennau o’r busnes y gellir eu datblygu ymhellach. Nid yn unig yr oedd y cymorth un i un yn rhagorol, ond galluogodd y cymorth ariannol ni i wireddu ein syniadau hefyd.”

Mae cefnogaeth Arloesedd SMART wedi cael effaith barhaus ar RMGroup, y tu hwnt i greu’r peiriant VFFS wedi’i deilwra. Ers cychwyn y bartneriaeth, mae RMGroup wedi ffeilio dau batent – sy’n rhywbeth nad oedden nhw wedi’i wneud yn flaenorol – a dylunio dau beiriant newydd sbon yn seiliedig ar y cysyniadau newydd hynny. Hefyd, mae’r cwmni wedi sefydlu adran ymchwil a datblygu er mwyn bod ar flaen y gad gyda syniadau arloesol newydd.

Ychwanegodd Mr Rees: “Bellach, mae ymchwil a datblygu wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Gyda rhagor o bwyslais ar ddylunio â chymorth cyfrifiadur, ynghyd â rolau peirianneg medrus, rydym ni wedi gallu datblygu sgiliau ein gweithlu a darparu swyddi o ansawdd uchel gyda chyfleoedd i bobl yng nghanolbarth Cymru barhau yn eu gyrfaoedd.

“Trwy ein gwaith gydag Arloesedd SMART, rydym wedi cynyddu ein capasiti cynhyrchu mewnol yn sylweddol, a diogelu ein dyfodol a’n helpu i fod yn fwy gwydn – sef un o nodau allweddol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb Lywodraeth Cymru ac Arloesedd SMART, ac mae eu cymorth wedi rhoi llwyfan i RMGroup dyfu fel cyflenwr rhyngwladol a chwifio’r faner dros Gymru.”

RM Group video CYM
RM Group video CYM