Deborah Nethercoat

Treuliodd Deborah Nethercoat 20 mlynedd yn gweithio mewn busnesau corfforaethol ar draws y DU ac yn yr Unol Daleithiau. Gweithiodd ei ffordd i fyny o fod yn swyddog gweithredol gwerthu i gwmni nwyddau swyddfa bach i fod yn Gyfarwyddwr Cyfuno Gwerthiannau byd-eang ar lefel bwrdd ar gyfer busnes rhyngwladol gwerth $12 biliwn, gan reoli dau gwmni gweithredu sy’n gyfrifol am 150 a mwy o swyddogion gwerthu. Ei phrif ffocws oedd datblygu busnes a thwf o safbwynt gweithredol a gwerthiant.

Newidiodd Deborah gyfeiriad ei gyrfa maes o law ar ôl cael teulu, ac yn 2009 gwelodd hi a dau o’i chydweithwyr busnes o’i 'diwrnodau corfforaethol'  fwlch yn y farchnad i ddarparu gwasanaeth datblygu gwerthiannau i fusnesau bach a chanolig - darparu swyddogion gwerthu lefel uchel i ‘wneud y gwaith' o ran gwerthu a chreu canlyniadau. Lansiwyd R2m Cyf (Route to Market) Sales Outsourcing a heddiw, mae'r tîm yn cynnwys deg swyddog gwerthu profiadol iawn sy'n gweithio gyda busnesau o bob maint ledled y DU i greu cynlluniau gwerthu, creu camau gweithredu, gwerthu cynnyrch a gwasanaethau a sicrhau canlyniadau.

Un o sgiliau allweddol Deborah yw cyflawni canlyniadau drwy bobl a chreu cyfleoedd i fusnesau dyfu’n sylweddol. Gyda gradd mewn Seicoleg Busnes ac Ymddygiad Sefydliadol, daeth Pobl a Phrosesau yn gryfder allweddol, gyda'r gallu i nodi gofynion o ran gwella prosesau a gweithredu'r newidiadau drwy unigolion a thimau. Dangoswyd hyn yn nifer o rolau Deborah, o’r cysyniad o isadran gwerthu newydd o fewn sefydliad corfforaethol byd-eang, i weithio gydag ymgynghorwyr i baratoi busnes i’w werthu i grŵp ecwiti preifat, a gweithio gyda chleientiaid gwerthiannau corfforaethol mawr i ddatblygu newydd busnes trwy reoli contractau’n strategol.

Mae Deborah hefyd yn cynnal gweithdai gwerthu ledled y wlad ac ar y cyd â sefydliadau megis Prifysgol Coventry, mae'r tîm R2m yn darparu cyrsiau ar ddulliau ymarferol o ddatblygu gwerthiannau a chyflawni canlyniadau twf allweddol.

  • Enw
    Deborah Nethercoat
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Powys a’r Canolbarth