Raymond Worsnop
Deuthum yn hunangyflogedig yn 15 oed gan greu a rhedeg nifer o fusnesau entrepreneuraidd bach yn gwerthu unrhyw beth y gallwn ei werthu mewn marchnadoedd. Ar ôl sawl blwyddyn o brofiad yn y diwydiant roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi datblygu fy sgiliau marchnad a manwerthu i’r graddau lle’r oeddwn yn hyderus y gallwn i hyfforddi eraill i werthu mewn marchnad yn llwyddiannus. Mae gwerthu mewn marchnad yn wahanol i siopau gan fod cymaint i bethau i’w hystyried mewn perthynas â’r diwrnod gwerthu. Dechreuais hyfforddi eraill i allu llwyddo yn y maes ac roeddwn i wedi gwneud enw da i fy hun mewn dim o dro.
Ymddeolais yn gynnar yn 47 oed a phan oeddwn i’n 60 oed penderfynais fy mod i am wneud mwy yn fy mywyd felly dyma ddechrau gwirfoddoli gyda Cyngor ar Bopeth.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach dechreuais fusnes newydd, menter gymdeithasol o'r enw RAW Training sydd bellach yn hunangynhaliol. Rydym yn gweithio gyda phobl ddi-waith o bob oedran ac yn eu cefnogi a’u hyfforddi i fod yn llwyddiannus ac yn hunan-ddibynnol yn ariannol. Mae fy nghymuned yn bwysig tu hwnt i mi a thrwy RAW Training rydw i’n cefnogi elusennau a rhaglenni cymunedau yn gyntaf.
Mae ffotograffiaeth yn rhoi gwefr i mi ac mae fy musnes diweddaraf yn y maes hwnnw yn fy arwain i bob math o gyfeiriadau gwahanol. Yn 2007 datblygais lyfr ffotograffiaeth. Rydw i wedi addysgu fy hun ac rydw i bellach yn gwerthu fy ngwaith i bedwar ban byd. Yn 2013, mewn cydweithrediad â bardd yn UDA, cyhoeddwyd fy llyfr cyntaf.
Efallai nad oedd gen i’r cymwysterau i ddechrau, ond gyda gwaith caled, penderfyniad, cyfathrebu ac amynedd rydw i wedi gallu cyflawni mwy na’r disgwyl.
-
EnwRaymond Worsnop
-
RôlPerchennog
-
LleoliadSir Ddinbych