Mark Stevens
Mae Mark yn beiriannydd mecanyddol sydd wedi bwrw’i brentisiaeth ac sydd wedi cymhwyso i ONC a HNC mewn peirianneg fecanyddol ac wedi graddio gyda gradd anrhydedd mewn peirianneg fecanyddol o Brifysgol Caerdydd. Mae Mark yn Beiriannydd Mecanyddol Siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.
Gyda gyrfa mewn gweithgynhyrchu, mae Mark yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau gyda phrofiad a llwyddiannau P & L helaeth mewn rheoli twf busnes trwy arweinyddiaeth ragweithiol ac effeithiol mewn amrywiaeth o gwmnïau o’r radd flaenaf yn y DU a thramor. Mae Mark yn gallu gweithio gyda thimau a'u datblygu er mwyn dyrchafu busnesau i lefelau uwch o ragoriaeth weithredol trwy reoli costau, hyfforddiant, grymuso a gwelliant parhaus.
Mae Mark yn hen law ar weithgareddau gweithgynhyrchu, gan gynnwys defnyddio offer gweithgynhyrchu darbodus a thechnegau cysylltiedig.
Yn gyfarwydd â datblygu gweithrediadau o’r radd flaenaf i ISO 9001: 2015, ISO 14001: 2004 OHSAS 18001: 2007, rheoli prosiectau, trawsnewid i syniadaeth ddarbodus, a newid diwylliant. Mae Mark yn gallu optimeiddio asedau safle i wella metrigau perfformiad mewn perthynas â CAPEX, ansawdd, cost, a chyflawni ar amser ar yr un pryd â chydymffurfio â'r safonau uchaf o ran iechyd a diogelwch.
-
EnwMark Stevens
-
RôlCyfarwyddwr
-
LleoliadCasnewydd