Alex Clapson
Rwy'n Fentor, Hyfforddwr a Hwylusydd llwyddiannus.
Cyn cychwyn fy ngyrfa lawrydd, roeddwn yn Bennaeth Hyfforddi a Mentora i Lywodraeth Cymru.
Mae fy mhrif sgiliau yn cynnwys:
1. Creadigrwydd: helpu i ffynnu syniadau a datrysiadau gwreiddiol
2. Dylanwadu: helpu i berswadio eraill i gefnogi syniadau, buddsoddi mewn datrysiadau a gweithredu
3. Cydweithio: y gallu i weithio gydag eraill a chreu cysylltiadau tuag at amcan cyffredin
4. Hyblygrwydd: ffynnu mewn newid ac ansicrwydd
5. Deallusrwydd emosiynol: gallu synhwyro a deall cymhellion ac emosiynau eraill er mwyn cyweirio ymatebion
Mae fy nghymwysterau'n cynnwys:
• MSc. Economeg ac Astudiaethau Cymdeithasol Cymhwysol
• Diploma Ôl-raddedig mewn Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol
• Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol
• Hyfforddwr Gweithredol ILM Cymwys
• DISC
• Uwch Weithiwr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol gyda chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru presennol a DBS
Rwy'n gweithio gyda chleientiaid o safbwynt canolbwyntio ar ganlyniadau a datrysiadau, gan eu galluogi nhw i wella'r effaith sydd ganddynt ar y gwaith a goresgyn heriau i lwyddo hyd eithaf eu gallu.
Rwy'n helpu arweinwyr i gamu oddi wrth y pethau cyffredin, trawsnewid eu sgiliau meddwl, ail-ddarganfod eu hadnoddau, er mwyn bod yn arweinydd llwyddiannus fel roeddynt wedi ei fwriadu.
Rwy'n datblygu perthnasau hyfforddi yn seiliedig ar ymddiriedaeth, ac yn helpu pobl i fod yn ymwybodol ac ymgysylltu yn eu datblygiad personol. Rwy'n tynnu ar sbectrwm eang o'r syniadaeth ddiweddaraf, yn cynnwys Seicoleg Ysgogol a Datblygu Arweinyddiaeth, gan ddefnyddio "beth sy'n gweithio" ar gyfer bob sefyllfa. Cyflawnir newidiadau parhaol drwy'r dull cefnogol a heriol hwn.
Mae gennyf 25 mlynedd o brofiad mewn rheolaeth weithredol a strategol a enillwyd mewn llywodraeth ganolog a lleol; sector preifat; a'r trydydd sector. Rwy'n gweithio ar draws Ewrop yn aml, ac rwyf ar gael i gleientiaid yn fyd-eang, wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.
Rwy'n hyfforddwr a hwylusydd dynamig a llwyddiannus gyda phrofiad mewn darparu amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys arweinyddiaeth, rheoli newid, cyfathrebu a sgiliau pobl.
Yn ystod fy 15 mlynedd o brofiad ymarferol fel Cyfryngwr hyfforddedig, rwyf wedi helpu nifer o unigolion a sefydliadau i oresgyn anghydfodau a chanfod datrysiadau cynaliadwy.
Ymarferydd ardystiedig offer asesu EQ-i 2.0 ® / EQ360 ® & MTQ48 ®
Gweithiwr proffesiynol VIA Character Strengths: http://alexclapson.pro.viasurvey.org/
-
EnwAlex Clapson
-
Enw'r busnesTalkworks Training & Development Ltd.
-
RôlCyfarwyddwr
-
LleoliadSir Gaerfyrddin