Dod yn Fentor
Os ydych chi’n berson busnes profiadol sy’n deall anghenion busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac os hoffech roi rhywbeth yn ôl drwy rannu eich gwybodaeth a’ch profiad busnes, hoffem eich gwahodd i ystyried mentora gwirfoddol drwy gyfrwng rhaglen fentora Busnes Cymru.
Mae’n rhaid i’n mentoriaid gael y canlynol:
- Profiad o amgylchedd busnes bach neu fawr. Gall hyn gynnwys profiad uwch reoli mewn amgylchedd corfforaethol neu weithredu eich busnes eich hun yn llwyddiannus.
- Empathi tuag at weithredwyr busnesau bach ac entrepreneuriaid, gyda gwir ddyhead i helpu.
- Profiad o’r problemau mae busnesau Cymru’n eu hwynebu.
- Gallu cyfathrebu ag eraill ac ennyn ymddiriedaeth a hyder eraill.
- Parod i ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol a pharhaus.
Bydd arnoch angen dealltwriaeth dda ac eang o fusnes. Mae llawer o fusnesau’n chwilio am fentoriaid sydd ag arbenigedd mewn meysydd neu swyddogaethau penodol, fel y canlynol:
- cyllid a chyfrifeg
- gwerthiant a marchnata
- strategaeth a chynllunio busnes
- TG a chyfathrebu
- allforio/mewnforio
- cyflogaeth
- problemau cyfreithiol/cydymffurfio