Richard Brown
Mae gan Richard dros 18 mlynedd o brofiad mewn gweithrediadau ac arweinyddiaeth gydag angerdd a hanes o lwyddiant am ddatgloi’r potensial mewn pobl a phrosesau. Drwy gydol ei yrfa mae wedi dangos ystwythder ochr yn ochr â gallu cydnabyddedig i gyflawni gwelliannau perfformiad gweithredol drwy hyfforddi arweinwyr i gymhwyso egwyddorion Rhagoriaeth Weithredol perthnasol.
Mae’r gallu hyfforddi sydd gan Richard yn cael ei barchu’n eang ac mae’n cael ei gydnabod gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth lle mae’n Fentor ardystiedig ac mae wedi derbyn Cymrodoriaeth. Chwaraeodd ran allweddol hefyd yn natblygiad, achrediad, a chyflawniad Academi Arweinyddiaeth Leap, sydd yn uchel ei chlod ac wedi ennill gwobrau.
Mae cymhwyseddau a phrofiad perthnasol yn cynnwys:
• Rheoli gweithgynhyrchu
• Arweinyddiaeth a theclynnau Rhagoriaeth Weithredol a Gweithgynhyrchu Darbodus (5S, Rheoli Gweledol ac ati)
• Hyfforddi arweinwyr ar bob lefel sefydliadol
• Creu Gweledigaeth, cenhadaeth a nodau ar lefel strategol ochr yn ochr â chyflwyno polisi
• Adfer Busnes
• Datrys Problemau
• Adeiladu timau a diwylliannau sy’n perfformio ar lefel uchel
Cymwysterau ac achrediadau
• MSci Cemeg
• Cymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Diploma hyfforddi personol
• Cymhwyster Six Sigma Black Belt
-
EnwRichard Brown
-
Enw'r busnesLeap76
-
RôlCyfarwyddwr a phartner rheoli
-
LleoliadCaerdydd