Richard Brown

Mae gan Richard dros 18 mlynedd o brofiad mewn gweithrediadau ac arweinyddiaeth gydag angerdd a hanes o lwyddiant am ddatgloi’r potensial mewn pobl a phrosesau. Drwy gydol ei yrfa mae wedi dangos ystwythder ochr yn ochr â gallu cydnabyddedig i gyflawni gwelliannau perfformiad gweithredol drwy hyfforddi arweinwyr i gymhwyso egwyddorion Rhagoriaeth Weithredol perthnasol.

Mae’r gallu hyfforddi sydd gan Richard yn cael ei barchu’n eang ac mae’n cael ei gydnabod gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth lle mae’n Fentor ardystiedig ac mae wedi derbyn Cymrodoriaeth. Chwaraeodd ran allweddol hefyd yn natblygiad, achrediad, a chyflawniad Academi Arweinyddiaeth Leap, sydd yn uchel ei chlod ac wedi ennill gwobrau.

Mae cymhwyseddau a phrofiad perthnasol yn cynnwys:
•    Rheoli gweithgynhyrchu
•    Arweinyddiaeth a theclynnau Rhagoriaeth Weithredol a Gweithgynhyrchu Darbodus (5S, Rheoli Gweledol ac ati)
•    Hyfforddi arweinwyr ar bob lefel sefydliadol
•    Creu Gweledigaeth, cenhadaeth a nodau ar lefel strategol ochr yn ochr â chyflwyno polisi
•    Adfer Busnes
•    Datrys Problemau
•    Adeiladu timau a diwylliannau sy’n perfformio ar lefel uchel

Cymwysterau ac achrediadau
•    MSci Cemeg
•    Cymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth
•    Diploma hyfforddi personol
•    Cymhwyster Six Sigma Black Belt
 

Gair i Gall

Mae pobl yn prynu pobl felly canolbwyntiwch arnoch chi eich hun a’ch tîm – ydych chi, ar y cyd, yn cynrychioli gwerthoedd eich cwmni? 

Richard Brown
ard
  • Enw
    Richard Brown
  • Enw'r busnes
    Leap76
  • Rôl
    Cyfarwyddwr a phartner rheoli
  • Lleoliad
    Caerdydd