Andy Anderson

Wedi iddo gymhwyso fel biocemegydd, dechreuodd Andy ei yrfa yn y diwydiant bwyd cyn symud i ofal iechyd yn 1980 ym maes profi clefyd siwgr. Mae wedi gweithio i nifer o gwmnïau rhyngwladol mewn rolau gwerthu a marchnata hŷn cyn dychwelyd i'r diwydiant bwyd yn 1992 gyda'r cwmni Biotrace o Gymru.

Wedi hyn, ymunodd ag Astra Zenica i arwain y gwaith marchnata eu cyfleuster profi genetig yn Rhydychen. Yn 1999 sefydlodd ei gwmni ei hun, Crawford Medical Limited, gan werthu efelychwyr meddygol yn seiliedig ar realiti o 2000 i 2006 ac, wedi iddo werthu'r cwmni, trodd at ddarparu gwasanaethu ymgynghori iechyd ac addysg i'r GIG ac amrywiaeth o wahanol gwmnïau.

Yn 2016 cododd £4 miliwn mewn cyfalaf cychwynnol ar gyfer cwmni deillio diagnosteg o Brifysgol Rhydychen, Osler Diagnostics, gan ddod yn Brif Weithredwr dros dro arno.  Mae wedi bod yn Gadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol wladol fawr ac mae ganddo Ddiploma Mewn Rheolaeth Ysgol Fusnes. Mae ganddo ddiddordeb gwirioneddol mewn cysylltu addysg prif ffrwd a gofal iechyd. Mae hefyd yn cynnal seminarau achlysurol ar waith adeiladu tîm gan ddefnyddio proffilio cymeriad Myers Briggs, system y mae wedi ei hyfforddi i'w dysgu a'i defnyddio. Mae ganddo Ddiploma Marchnata o'r Sefydliad Siartredig ac mae hefyd yn Hyfforddwr Bywyd Hapus ardystiedig.

Ar wahân i wybodaeth eang ar bob agwedd o werthiant a marchnata, mae ganddo brofiad o sefydlu a rheoli busnes newydd, sgiliau y gellir eu cymhwyso i unrhyw gynnyrch neu wasanaeth. Mae wedi rheoli nifer o dimau ac yn frwd dros yr angen am adeiladu perthnasoedd positif yn fewnol ac yn allanol, sy'n gallu gyrru llwyddiant busnes.

 

Gair i Gall

Mae pobl yn prynu gan bobl. Deall eich cwsmer a pham y byddent, neu na fyddent, yn prynu eich cynnyrch neu wasanaeth. Dim ond trwy gyfarfod neu siarad a nhw mor amal a phosib y gellir gwneud hyn.

Andy Anderson
Ander
  • Enw
    Andy Anderson
  • Enw'r busnes
    Anderson Consulting
  • Rôl
    Pecheneg
  • Lleoliad
    Sir Benfro