Andy Youard

Fel llawer o bobl cefais fy arwain i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd busnes gan fy ngyrfa. Ar ôl deuddeg o flynyddoedd yn y Fyddin cefais brofiad o reoli gweithgynhyrchu arbenigol ar gyfer y diwydiant argraffu, mewn gweithredu meddalwedd rheoli warws ac mewn cadwyn gyflenwi fyd-eang ar gyfer cwmnïau dyfeisiadau meddygol. Daeth Cynllunio Gwerthiant a Gweithrediadau (S&OP) yn swydd bob dydd tra bod prosiectau cymhleth gan gynnwys caffaeliadau, integreiddiadau, systemau ERP a throsglwyddiadau gweithgynhyrchu technegol yn rhoi llawer o sylw i wahanol sefydliadau a diwylliannau busnes. 
Yn ystod y blynyddoedd hynny bues yn byw yn y DU, yr Almaen, Denmarc a’r UDA ac yn gweithio gyda thimau ar draws y byd bob dydd.   
Dysgais rai o fy ngwersi mwyaf gwerthfawr wrth reoli peirianwaith bach yn Nenmarc ac yn y DU lle roedd y cyfathrebu bob dydd gyda’r busnes cyfan o’r gwerthu i gynhyrchu llawr siop a phopeth rhwng y ddau, gan gynnwys ansawdd cynnyrch a pherchnogaeth o’r P&L, yn rhoi profiad amhrisiadwy o fentro at wraidd pethau. Hefyd, trwy hynny ac yn fy ngyrfa ddiweddarach gyda sefydliadau mwy, dysgais lawer gan brosiectau llwyddiannus, ond yn yr un modd, o’r methiannau a’r camgymeriadau. 
Rwyf wedi rheoli a chydweithredu â phobl ar bob lefel drwy gydol fy ngyrfa, o’r llawr siop i’r ystafell fwrdd, a dro ar ôl tro, rwyf wedi gweld bod trin, ac arwain, pobl â pharch yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r canlyniad. 
 

Gair i Gall

Mae symlrwydd yn allweddol mewn gweithrediadau. Mae cymhlethdod yn creu risg.

Andy Youard
Andy
  • Enw
    Andy Youard
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Gwynedd