Barbara Ravens

Rwy’n strategydd busnes gyda dros 10 mlynedd o brofiad sy’n amrywio o amgylcheddau corfforaethol i fusnesau newydd.

Ar hyn o bryd, fy mhrif swydd yw rheolwr Perthnasau mewn cwmni ymgynghorol sy’n arbenigo mewn caffael cyllid i sicrhau tyfiant ar gyfer busnesau B2B SaaS. Yn y swydd hon, rwy’n gyfrifol am y gweithdrefnau busnes a marchnata, gan gynnwys ymgysylltu â chleientiaid a phartneriaid, a gweithio gyda busnesau technoleg mwyaf llwyddiannus y DU, entrepreneuriaid sefydledig ac arbenigwyr diwydiannol yn y maes.

O ran ymgynghori, rwyf yn bennaf yn gweithio gyda BbaCh er mwyn eu cefnogi i sefydlu a thyfu busnesau sefydlog drwy wneud defnydd o strategaethau marchnata, datblygu busnes a sefydlu gweithrediadau. Rwyf wedi gweithio gydag ystod amrywiol o gwmniau, o gwmniau gweithgynhyrchu i gwmniau B2C, gan dreulio’r rhan fwyaf o fy amser yn sefydlu gweithrediadau marchnata.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn iechyd meddwl, yn enwedig mewn cyd-destun diwylliant yn y gweithle. Pan nad wyf yn gweithio, mae’n debyg y byddaf yn y gampfa crossfit, neu’n gofalu am fy ‘nghoedwig’ dan do.
 

Gair i Gall


 

Barbara Ravens
Barbara
  • Enw
    Barbara Ravens
  • Enw'r busnes
    Barbara Ravens
  • Rôl
    Perchennog
  • Lleoliad
    Caerdydd