Carl Matthews

Yn 1979 dechreuais fy ngyrfa mewn peirianneg, gyda hyfforddiant ar sail ymarfer mewn prentisiaeth. Gweithiais fy ffordd i fyny'r raddfa ac yn 1988 cymhwysais fel peiriannydd.
Mae fy mhrofiadau ers cymhwyso wedi bod yn amrywiol, fel a ganlyn:
-    Ers 1989, rolau peiriannydd dylunio a datblygu ble mae eglurder syniad, dylunio a datblygiad, a dadansoddiad costau gydol oes yn dod law yn llaw. Mae nifer o'r rolau wedi cynnwys cyfrifoldebau arweinydd tîm gan gynnwys rhannu llwyth gwaith, cyflogi a diswyddo. 
-    Ers 1997, rolau rheoli prosiect ble mae rheoli amser, safon a chostau yn gydradd o ran pwysigrwydd. Rheoli pobl a gweithgareddau cynllunio prosiect yn y bôn, gan gynnwys; bod yn arweinydd tîm i dimau mawr o weithwyr cyflogedig a chontractwyr fel ei gilydd, contractau trafod telerau, cofnodi, rheoli a rhagweld cyllid, a goruchwylio agweddau Iechyd a Diogelwch.
-    Ers 2008, hunan-gyflogaeth, gan gynnwys; paratoad busnes, dysgu am gyllid, cadw cofnodion, gwerthu a marchnata, pan oedd cyfrifoldebau technegol, cyllidol, safon, gwerthiant a marchnata, a holl elfennau sylfaenol busnes, oll ar fy ysgwyddau i. Aeth rheoli prosiect â mi ar drywydd rhyngwladol. 
Galluogodd bod yn hunan-gyflogedig i mi ehangu fy ngorwelion, a phontio i fusnesau a sectorau eraill.
-    Ers 2017, datblygu, hyfforddi a mentora datblygiadau eiddo.
-    Ers Ionawr 2021, menter newydd yn cyflwyno hyfforddiant trafnidiaeth ledled y DU.
Diolch i’m hyfforddiant a’m profiad, mae dadansoddi yn fy ngyrru ac rwy’n drylwyr o ran gwerthuso sefyllfaoedd. Rwy’n awyddus i gasglu’r holl wybodaeth berthnasol cyn gwneud penderfyniadau. Mae risg bob amser yn rhan o fusnes a bywyd, ond mae risg gofalus yn golygu canlyniadau a bywyd gwell.

Gair i Gall

Bydd ymchwilio cyn y digwyddiad yn cadarnhau llwyddiant neu fethiant unrhyw fenter. Yn ôl y dywediad; “failing to prepare means preparing to fail”.

Carl Matthews
CX
  • Enw
    Carl Matthews
  • Enw'r busnes
    CAMCAD Services, Tycho Project Management, Cosy Homes, Tabernacle Property Investment, Friendberry.
  • Rôl
    Perchennog, CEO, CFO, CTO, Mech Eng, Prj Mgt.
  • Lleoliad
    Gwent ac Prydain