Catherine Bailey Thomas

Siaradwr Cymraeg

Helo, fy enw yw Catherine ac rwy’n falch iawn o fod yn fentor Busnes Cymru. Mae fy angerdd a’m cred mewn mentora yn deillio o brofiad uniongyrchol i’r effaith drawsnewidiol y gall ei chael. Rwyf yn mwynhau cefnogi eraill, yn enwedig pan efallai nad yw pethau’n mynd yn unol â’u cynllun bywyd neu efallai eu bod eisiau mynd i gyfeiriad newydd yn eu gyrfa. Ceir achlysuron pan fydd rhywun angen cefnogaeth i ddal ati gyda’u menter busnes neu efallai angen sgwrs 1:1 i roi hwb i’r hyder ac i’w hatgoffa o’u gwerth. Efallai mai dyna chi?
Rwyf yn siaradwr Cymraeg, fe’m magwyd yn Sir Gaerfyrddin, ac rwyf wedi dal swyddi ar lefel sefydliadol a rheolaethol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â’r maes gwleidyddol. Deallaf sut mae llywodraeth ar lefel Leol, Senedd, San Steffan ac Ewropeaidd yn gweithio ac rwyf yn gyn Aelod Cynulliad. Mae fy niddordebau eang yn cynnwys adfywio cymunedol, tai, dylunio a’r amgylchedd adeiladol. Yn gysylltiedig â’r holl ddiddordebau hyn mae angerdd ac ymrwymiad i hawliau cyfartal a chanlyniadau teg i bawb. Rwy’n Gyfarwyddwr Anweithredol profiadol ac ar hyn o bryd yn sefyll ar fwrdd Chwarae Teg, yr elusen sy’n arwain ac yn darparu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. 
Mae’r set sgiliau amrywiol, trosglwyddadwy sydd gennyf wedi cael ei datblygu a’i mireinio dros 25 mlynedd. Rwyf bellach yn buddsoddi’r sgiliau hynny yn fy nghwmni fy hun – Catherine Bailey Thomas Consulting Ltd. Yn gynwysedig yn fy mhortffolio o wasanaethau mae hyfforddi a mentora ar gyfer unigolion a grwpiau hyd at lefel weithredol a lefel uwch reolwyr a hefyd hyfforddiant siarad cyhoeddus. Fel dylunydd mewnol cymwys, mae gen i ddiddordeb penodol mewn creu lleoedd swyddogaethol cyfforddus sy’n ddymunol yn esthetaidd, i weithio’n effeithiol ynddynt. Mae’r newid i weithio gartref wedi tyfu’n sylweddol ac mae’n debygol o ddod yn norm. O ganlyniad, i lawer mae man gweithio gwych gartref bellach yn hanfodol ac rwy’n mwynhau datblygu’r agwedd honno ar fy musnes yn fawr. 

 

Gair i Gall

Meddyliwch a meddyliwch ychydig mwy bob amser cyn gwneud penderfyniadau. Waeth pa mor fawr neu fach ydynt. Yn ddelfrydol, mae’n wych cael un neu ddau o unigolion dibynadwy a chraff i wneud rhywfaint o’r meddwl cyn penderfyniad hwnnw gyda chi.

Catherine Bailey Thomas
catherine
  • Enw
    Catherine Bailey Thomas
  • Enw'r busnes
    Catherine Bailey Thomas Consulting Ltd
  • Rôl
    Cyfarwyddwr cwmni
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin