Colin Charles Lewis

Cyfarwyddwr Anweithredol profiadol, yn gweithio fel rhan o dîm i helpu i gyflawni amcanion y sefydliad, ac yn meddu ar graffter masnachol. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o Reoli Prosiect [fel aelod o’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau] a phrofiad Rheoli Tîm, rwyf yn ymwneud â gwasanaethau ariannol a ffensio gerddi!  Rwyf wedi cefnogi prosiectau cylch bywyd llawn; o gynnig cysyniadau/strategaethau i gyflawni newid parhaol, ar draws ystod o sefydliadau. Rwyf hefyd wedi datblygu modelau gweithredu ac wedi cyflwyno newidiadau sefydliadol i gyd-fynd â’r modelau newydd [gan gynnwys dysgu sut i osod ffensys gardd, gan gael fy nwylo’n fudr yn llythrennol!].  Rwyf wedi cefnogi a dylanwadu ar randdeiliaid ar lefel weithredol i groesawu newid; gan gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd, gostyngiadau mewn costau a refeniw newydd yn barhaus; bob amser yn ceisio darparu datrysiadau pragmatig.

 

Gair i Gall

Gwybod sut mae da yn edrych. Yn aml bydd pobl yn mynd ar ôl perffeithrwydd, am gost, pan fydd digon da yn sicrhau’r buddion - ac erbyn i chi gyflawni perffeithrwydd bydd y byd wedi symud ymlaen.

Colin Charles Lewis
Colin
  • Enw
    Colin Charles Lewis
  • Lleoliad
    Sir Fynwy