Craig Meakin

Mae Craig wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu a thrydanol ers dros 20 mlynedd, gan ddechrau fel trydanwr drwy gynllun prentisiaeth 5 mlynedd gyda British Steel yng Nghasnewydd. Yn ystod y cyfnod hwn arbenigodd yn y gwaith o osod a chynnal a chadw systemau trydanol. Treuliodd ychydig flynyddoedd yn gweithio mewn Gorsaf Bŵer Niwclear fel technegydd.

Yna, gweithiodd am gyfnod yn addysgu myfyrwyr dros 16 mlwydd oed mewn coleg o fewn y gyfadran beirianneg

Cam nesaf Craig oedd mynd i weithio yn y maes rheoli prosiect am sawl blwyddyn yn goruchwylio holl agweddau ar osodiadau ar gyfer prosiectau adeiladu â gwerth oddeutu £10M yn ne-orllewin y DU. 

Yn dilyn ei gyfnod yn y maes rheoli prosiectau adeiladu aeth Craig ymlaen i weithio yn ei brif faes arbenigedd, sef gweithgynhyrchu.  Canolbwyntiodd ar werthiannau yn bennaf yn y DU cyn mynd ymlaen i weithio mewn rôl Cyfarwyddwr lawn, ar gyfer marchnadoedd y DU ac Allfor

Treuliodd 10 mlynedd yn y rôl hon yn datblygu marchnadoedd Allforio ar draws sawl cyfandir, gan ymweld â gwledydd er mwyn sefydlu arfer gorau i sicrhau twf parhaus.

Llwyddodd Craig i gwblhau a chyflawni sawl cwrs addysgiadol gyda’r uchaf o’r rhain yn radd BSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol. Mae’n astudio ar hyn o bryd ar gyfer cwrs lefel MBA ym Mhrifysgol Warwick mewn “Strategaeth ac Arloesedd” a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi 2023.

Mae Craig yn briod ers dros 15 mlynedd a chanddo 2 blentyn a 3 chi bach.
 

Gair i Gall

I lwyddo mewn busnes mae angen i chi fod yn weithgar ond ar yr un pryd cael hwyl! Nid yw llwyddiant yn ddim heb wên…

Craig Meakin
Ph
  • Enw
    Craig Meakin
  • Enw'r busnes
    Philip Payne
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Casnewydd