Daniel O’Toole

Siaradwr Cymraeg

Yn Brif Gweithredwr Gwasanaethau Marchnata Manwerthu (RMS), a sefydlydd Flex, mae Daniel wedi defnyddio ei brofiad mewn darparu newid trawsffurfiol i ehangu a chryfhau etifedd ei ddiweddar dad.

Sefydlodd Peter O’Toole, tad Daniel, RMS yn 2005 yn dilyn blynyddoedd o weithio mewn manwerthu, ond bu iddo farw’n annisgwyl yn 2015. Ers hynny, mae Daniel wedi arwain y busnes teuluol, gan fuddsoddi’n fawr mewn technoleg wrth greu Flex, rhaglen flaenllaw o fewn marchnata sydd yn cael ei defnyddio gan adwerthwyr enfawr yn y DU ac Iwerddon. I gydnabod ei lwyddiannau, bu iddo ennill Gwobr IoD Cyfarwyddwr Newydd y Flwyddyn y DU llynedd.


Cyn RMS, roedd Daniel yn rheoli rhai o gwsmeriaid mwyaf undebau myfyrwyr a phrifysgolion Endsleigh Insurance, yn ogystal â saith sefydliad aelodaeth elusen sylweddol.

Ar ôl graddio mewn Cemeg, cafodd Daniel ei ethol i fod yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerfaddon yn 2009. Yno, roedd yn gyfrifol am sefydliad a gymeradwywyd yn genedlaethol am ei 15,000 aelod, gyda throsiant blynyddol o £5m. Bu’n cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, arwain tîm o bum Is-lywydd etholedig a gweithio’n agos gyda’r uwch reolwyr i arolygu datblygiadau strategol yr undebau a'r prifysgolion. Cafodd ei ailethol yn 2010 i ddal ei swydd am flwyddyn ychwanegol.

Daniel
  • Enw
    Daniel O’Toole
  • Enw'r busnes
    RMS
  • Rôl
    CEO
  • Lleoliad
    Casnewydd