Darren Walsh

Darren Walsh yw Cyfarwyddwr a Hyfforddwr Arwain Making Lean Work Ltd. Mae ganddo dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn arwain trawsnewidiad gyda chwmnïau fel Sony Aiwa, Sega, Boston Scientific, Parker, Zodiac Aerospace a gyda’r Lean Institute. 

Yn wreiddiol, roedd Darren yn Beiriannydd Diwylliannol, wedi cymhwyso gyda Gradd Meistr Lean drwy Ganolfan Ymchwil Menter Lean Ysgol Fusnes Caerdydd yn 2004.  Mae hefyd yn Hyfforddwr Arweinyddiaeth Zenge-Miller ardystiedig, Ymarferydd Rheoli Newid Prosci a mentor busnes gwirfoddol ar gyfer Busnes Cymru. 

Mae’r profiad hwn yn cynnwys arwain newid, datblygu pobl a chyflwyno canlyniadau busnes arloesol.  Mae wedi gweithio gyda rhai o’r Busnesau Newydd a Manwerthwyr, Gwasanaethau Ariannol, Gemau, Olew a Nwy, Trafnidiaeth, Modurol, Awyrofod, Fferyllol a Meddygol gorau.  Mae wedi gweithio hefyd ar gyfer cwmniau fel Sega, Boston Scientific, Parker Hannifin, Zodiac Aerospace, a gyda’r Lean Institute.  
Yn Boston Scientific a Sega, arweiniodd drawsnewidiad ar draws y safleoedd a oedd yn cynnig canlyniadau arloesol (yn ysgogi cynnydd o dros ddwbl yn y ddau).  Roedd hefyd yn dal swydd BU a Rheolwr Cyffredinol yn Sega a Hobbs.   
Treuliodd Darren dros 7 mlynedd yn gweithio mewn rolau aml-safleoedd fel Rheolwr Is-adran Gwella Busnes a Lean yn Parker Hannifin & Zodiac Aerospace, lle datblygodd System Rheoli Lean strwythurol er mwyn helpu i ysgogi gwelliant parhaus drwy'r busnes yn cynyddu ymgysylltu, perfformio ac elw.   


Ers dros 8 mlynedd a hanner, mae wedi gweithio gyda’r Lean Institute yn y DU, a ledled y byd, lle’r oedd yn canolbwyntio ar helpu'r sefydliadau hynny a oedd yn ei chael hi’n anodd gwneud gwelliannau parhaus a darbodus yn y gwaith.  Mae hefyd wedi cyfrannu at sawl gweithgor Rhwydwaith Byd-eang Lean, gan gynnwys: Datblygu prosesau a chynnyrch Lean, Trawsnewidiad Lean a Digidol Lean.
Mae Darren wedi hyfforddi uwch dimau arwain a rheoli mewn cwmnïau fel: Adidas, Baker Hughes, Gwasanaethau Ariannol DLL, De Gruchy, Mars, Siemens, TechnipFMC, Mann & Hummel, GE, Trenau Tanddaearol Llundain, y GIG a’r Lean Institute.
Mae wedi cyflwyno hyfforddiant i dros 1,200 o gyfranogwyr ac arweinwyr busnes Ewropeaidd, yn eu helpu i ddarganfod ffyrdd gwell o wneud gwelliannau gwaith parhaus a lean o fewn eu sefydliadau.

Mae’n frwd dros geisio darganfod pam mae sefydliadau a'u harweinwyr yn parhau i’w chael yn anodd gwneud gwelliannau gwaith parhaus ac effeithlon o fewn eu busnesau.  Ac mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei lyfr cyntaf yn mynd i’r afael ar y pwnc. 
Mae canlyniadau diweddar yn cynnwys: 
50% mewn cynhyrchedd ar draws y safle 
Cynyddu darpariaeth ar amser o 45 i > 90%
Lleihau amser rhagarweiniol 80% (ar gyfer amnewid falf y galon yn Ysbyty Treforys o 52 i 8 wythnos)

Gair i Gall

Nid yw gwelliant parhaus ac effeithlon yn opsiwn yn amgylchedd busnes byd-eang heddiw, mae’n rhywbeth y mae angen i bawb ei wneud, neu:
•    - Bydd ein hamseroedd rhagarweiniol yn rhy hir
•    - Bydd Costau a Stoc yn rhy uchel
•    - Bydd gwasanaeth cwsmer yn rhy isel
•    - Bydd twf yn rhy araf
A byddwn wedyn yn dod yn ail i’r gystadleuaeth.  
Mae arnom ddyled i bob gweithiwr weithredu gwelliant parhaus ar gyfradd garlam er mwyn ennill yn erbyn y gystadleuaeth ac aros ar y blaen

Darren Walsh
D
  • Enw
    Darren Walsh
  • Enw'r busnes
    Making Lean Work Ltd
  • Rôl
    Cyfarwyddwr a Hyfforddwr Arweinyddiaeth
  • Lleoliad
    Pen-y-bont ar Ogwr