David McCormack

Rydw i wedi bod yn gysylltiedig â'r diwydiant ariannol ers 1991, pan oeddwn yn gweithio i Pearl Assurance. Hyd yn hyn rydw i wedi ennill fy FPC 1, 2 + 3 (Tystysgrif Cynllunio Ariannol), CeMAP (Tystysgrif mewn Cyngor ac Ymarfer Morgeisi), CERER (Tystysgrif mewn Rhyddhau Ecwiti Rheoledig).

Drwy gydol fy ngyrfa waith, rydw i wedi llwyddo yn fy menter fusnes fy hun fel broceriaid morgeisi annibynnol sy'n cyflogi mwy na 12 o gynghorwyr morgeisi a 3 aelod o staff gweinyddol, menter ar y cyd mewn Rheoli Dyled ac rydw i ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr cyswllt i gwmni pensiwn annibynnol bach ac yn gyd-sylfaenydd Finesse Finance sy'n arbenigo mewn cyllid masnachol i fusnesau bach a chanolig.

Rydw i wedi adeiladu portffolio cryf o gleientiaid a gyfeiriwyd ataf gan gleientiaid presennol a thrwy drin a thrafod yn y diwydiant rydw i wedi dysgu llawer am y maes. Yn ystod fy ngyrfa rydw i bob amser wedi meithrin perthynas fusnes waith gref gyda fy ngweithwyr ac yn sicrhau eu bod yn cyflawni eu nodau ac yn gweithio hyd eithaf eu gallu drwy eu mentora a’u hyfforddi gydol eu gyrfaoedd, i ddatblygu eu sgiliau a magu hyder.

Gair i Gall

Peidiwch â disgwyl llwyddo dros nos – gallwch fod yn lwcus os oes gennych chi’r cynnyrch cywir yn y farchnad ar yr adeg gywir ac am y pris cywir, ond mae gwir lwyddiant yn cymryd blynyddoedd, gyda llawer o brofi a methu. Daliwch i ddysgu a pheidiwch â cholli ffydd yn eich hun na’ch cynnyrch.

David McCormack
  • Enw
    David McCormack
  • Rôl
    Sefydlydd
  • Lleoliad
    Gogledd Cymru