Gareth Shears

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr cwmni dillad ‘crossfit’ am y deng mlynedd diwethaf, yn rhedeg cwmni e-fasnach ac yn mynychu cystadlaethau ‘crossfit’ ledled y wlad - www.bearstrength.co.uk yn canolbwyntio ar werthiannau, marchnata, cyfryngau cymdeithasol, cyllidebau, hysbysebu, dylunio a chynhyrchiant a deall a darparu’r holl ofynion sydd i’w disgwyl gan gyfarwyddwr. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr a Chynllunydd Ariannol i Sanctuary Financial Planning, sydd yn darparu cynlluniau ariannol i gleientiaid ar gyfer eu holl anghenion, o forgeisi i bensiynau a buddsoddiadau.

Rwyf wedi bod yn gynghorydd ariannol ers 2009, ac wedi ennill gradd BA Anrhydedd mewn Rheolaeth a Diploma mewn Cynllunio Ariannol.
Fy mhrif gryfderau yw arwain, gwneud penderfyniadau, dylanwadu a pherswadio eraill a deall pobl drwy addasu i sefyllfaoedd/senarios gwahanol gyda sgiliau cyfathrebu a gwrando gwych.

Roeddwn hefyd yn yr heddlu am dros chwe blynedd lle bues yn datguddio ac yn delio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd sydd wedi fy helpu i addasu i sefyllfaoedd posib a meddwl yn gyflym ac yn rhesymegol gan asesu'r effaith ar eraill.

 

Gair i Gall

Adeiladwch rwydwaith o bobl gefnogol sydd yn gallu cynnig cyngor, awgrymiadau a phobl rydych y gallu ymddiried ynddynt. Credwch ynddoch chi eich hun a gosodwch nodau amserol a realistig.

Gareth Shears
Gareth
  • Enw
    Gareth Shears
  • Enw'r busnes
    Sanctuary Financial Planning/ Bear Strength Limited
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Caerdydd