Gary Steven Smith

Mae gennyf brofiad helaeth o ddatblygu a darparu datrysiadau technegol unigryw ar gyfer cwsmeriaid pwysig sy’n gweithredu mewn amgylcheddau diwydiannol, amddiffyn ac academaidd uchel eu risg.  
 
Gallaf helpu eraill i ddylunio a darparu gwasanaethau proffesiynol a datrysiadau yn canolbwyntio ar leihau risg a hyrwyddo technolegau a datrysiadau newydd. Mae gennyf brofiad o gyflwyno datrysiadau AR mewn amgylcheddau uchel eu risg, ac mae gennyf brofiad ymarferol o gyflwyno SAP, Sharepoint ac Azure, RealWear HMT1 a Navigator 500, HoloLense2, Vuzix Blade, Intoware WorkfloPlus, a Cognica Insite360.  
 
Yn ychwanegol, mae gennyf brofiad ymarferol o ddatblygu ac integreiddio cymorth ac arweiniad o bell ar gyfer dronau llaw, gwisgadwy a di-griw, gan integreiddio cydymffurfiaeth a thechnegau rheoli risg gyda heriau gofynion gweithredu bywyd go iawn.  
 
 
Mae fy Arbenigeddau Diwydiannol yn cynnwys:  
•Gweithredu a Dosbarthu XR (AR a VR) mewn cyd-destun diwydiannol (amgylchoedd peryglus)  
 
•Datblygu a Meithrin systemau Rheoli Integredig. Prif Archwiliwr ISO 45001.  
•Tystiolaeth arbenigol parthed defnydd ac addasrwydd IMS, yn benodol ISO 45001. •Rheoli Contract Iechyd Galwedigaethol a Hyrwyddo Llesiant  
•Rheoli Risg Galwedigaethol ar y Ffyrdd  


 

Gair i Gall

Mae angen i’ch cyflwyniad fod yn fyr a bachog, os ydych chi’n trafod yn rhy fanwl gyda’r swyddogion gweithredol, mae wedi canu arnoch chi.

Gary Steven Smith
GSS
  • Enw
    Gary Steven Smith
  • Lleoliad
    Powys