Helen Phillips

Mewn gyrfa amrywiol yn ymestyn dros 30 mlynedd, rydw i wedi bod yn gyfrifol am bob agwedd ar weithrediadau gweithgynhyrchu, gan gynnwys y Gadwyn Gyflenwi, Gweithgynhyrchu, Gwella Prosesau, Systemau Busnes, a Systemau Ansawdd, Amgylcheddol, ac Iechyd a Diogelwch. Rydw i wedi gweithio mewn diwydiannau sy'n amrywio o weithfeydd prosesu i fusnesau gwneud-i-archeb cyfaint isel. Mae llawer o'r prosiectau rydw i wedi ymwneud â nhw wedi croesi ffiniau adrannol, ac o ganlyniad, mae gennyf ddealltwriaeth dda o sut mae busnesau'n gweithio yn eu cyfanrwydd, o'r ymholiad i’r anfonebu.

Fy arddull arwain naturiol yw gweithio ochr yn ochr â phobl a’u hyfforddi, ac rydw i’n cael cryn foddhad o weld pobl yn datblygu ac yn cyflawni eu llawn botensial. I sicrhau newid hirdymor, mae ymrwymiad y tîm yn hanfodol – gallaf feithrin perthynas â phobl yn gyflym, ac rydw i’n gyfforddus yn gweithio gyda phobl ar bob lefel o'r busnes.

Rydw i wedi cael addysg hyd at lefel Gradd Meistr mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, ac yn cymhwyso egwyddorion "Syniadaeth Ddarbodus" i wella prosesau busnes a gweithgynhyrchu. Fy nghryfder yw fy ngallu i ddeall sut mae’ch busnes yn gweithio yn ei gyfanrwydd, a darparu atebion sy'n croesi ffiniau swyddogaethol. Credaf fod cael y mesurau cywir ar waith yn bwysig, ac rydw i’n mwynhau gweithio gydag uwch reolwyr i weithredu dull strwythuredig o reoli'r busnes.

Gair i Gall

Dechreuwch gyda gweledigaeth sy’n rhoi gwefr i chi – ysgrifennwch hi ar bapur, a’i gwneud yn fywiog ac ysbrydoledig.

Trowch y weledigaeth honno’n gynllun gyda nodau byrdymor ystyrlon a chyflawnadwy, ac yna dathlwch eich llwyddiant ar hyd y ffordd.

Helen Phillips
  • Enw
    Helen Phillips
  • Rôl
    Ymgynghorydd
  • Lleoliad
    Caerdydd