Helen Whitten

Rwy’n hyfforddwr / mentor busnes profiadol a chymwys drwy’r Sefydliad Dysgu a Rheoli, ac mae gen i dros 34 mlynedd o brofiad yn y maes uwch reoli a marchnata, yn ddiweddar ar lefel Ewropeaidd a Byd-eang.


Fel hyfforddwr a mentor, rwy’n cynnig man diogel a seinfwrdd cyfrinachol, i’ch cefnogi chi wrth ichi ddatblygu eich busnes yn ogystal â’ch helpu chi wrth ichi ddatblygu fel unigolyn. Fel marchnatwr, rwy’n helpu i ddatblygu strategaethau marchnata a dyfeisio cynlluniau marchnata er mwyn helpu eich busnes i ffynnu.


Rwy’n frwd dros weithio gyda phobl wrth iddynt ddatblygu i fod y fersiwn orau o’u hunain. Os ydych yn berchennog busnes, gallaf eich cefnogi i weithio drwy unrhyw heriau neu gyfleoedd rydych yn eu hwynebu – nid oes unrhyw fater yn rhy fawr nac yn rhy fach. Gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni eich nodau.


Gallaf helpu gyda’r canlynol:


•    Strategaeth a gweledigaeth busnes
•    Optimeiddio perfformiad busnes
•    Datblygu sgiliau arwain / rheoli
•    Strategaeth a chynllunio marchnata
•    Cymorth marchnata digidol / cyfryngau cymdeithasol / adolygiadau gwefan etc
 

Gair i Gall

Diffiniwch eich cynulleidfa darged a datblygwch eich busnes drwy eu hymgysylltu, eu synnu a’u plesio, fel eu bod yn dod yn gefnogwyr ffyddlon ac yn eiriolwyr brwd.

Helen Whitten
Whi
  • Enw
    Helen Whitten
  • Enw'r busnes
    Bayside Coaching / Roland Europe Group
  • Rôl
    Sylfaenydd/Cyfarwyddwr Marchnata Ewropeaidd
  • Lleoliad
    Pen-y-bont