Jane Baker

Mae Jane Baker yn hyfforddwr weithredol cymwys sy’n arbenigo mewn gwella perfformiad sefydliadol ac unigolyn ar gyfer unigolion a thimau, â dealltwriaeth eang o weithio o fewn y sector masnachol yng Nghymru. Cafodd ei rhoi ar restr fer “Hyfforddwr y Flwyddyn” a “Hyfforddwr y Flwyddyn Busnesau Bach” â’r Academi Hyfforddi Ryngwladol yn 2017.

Mae hi’n hyfforddwr ardystiedig ar gyfer rhaglenni rheolaeth ac arweinyddiaeth ILM i ystod eang o Gwmnïau. Mae hi’n gyfrifol am draddodi rhaglenni megis ymddygiad arweinyddiaeth a’i effaith ar dimau, hyfforddi ar gyfer perfformiad, cynllunio strategol ar gyfer twf busnes, deallusrwydd emosiynol a deinamegau tîm. Ei phrif nod yw gwella perfformiad yr unigolyn a’r tîm.

Mae Jane yn aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac yn hwylusydd ac yn hyfforddwr ardystiedig ar gyfer Emosiynau ac Ymddygiad yn y Gwaith, ILM 72 a phroffilio seicometrig DISC. Mae hi’n defnyddio’r dulliau hyn i helpu rheolwyr a thimau i feincnodi eu hemosiynau a’u hymddygiad a datblygu eu gallu i ddod yn unigolion sy’n perfformio’n uchel.

Drwy gyfuno ei phrofiad o weithio o fewn yr amgylchedd corfforaethol yn datblygu gweithgareddau strategol busnes ar lefel uwch am dros 12 mlynedd, ag ymagwedd gyfannol a hyfforddiant seicoleg perfformiad, mae gan Jane y sylfaen berffaith i ddeall a datblygu sgiliau arwain pobl eraill.

Meysydd Arbenigedd:

  • Hyfforddi Gweithredol â sector marchnad amrywiol
  • Hyfforddi rheoli perfformiad un-i-un a thîm
  • Hyfforddiant ILM - cynllunio, traddodi a dilysu mewnol cyrsiau rheoli ILM
  • Hyfforddiant rheoli straen a chydbwysedd gwaith/bywyd
  • Hyfforddi Gyrfa
  • Adeiladu Tîm
  • Cyflafareddu a datrys gwrthdaro

Ymagwedd at Hyfforddi ac Arwain

Mae Jane yn defnyddio methodoleg â chanolbwynt ar ddatrys i helpu newid meddyliau cleientiaid i alluogi canlyniadau cadarnhaol. Mae ei hymagwedd empathig yn caniatáu i unigolion a thimau adnabod anghenion datblygu a pherchnogi datrysiadau.

Mae ganddi arddull gynnes, ddoniol ac ymarferol, â chanolbwynt ar hyder, cymhelliant ac ymwybyddiaeth o batrymau ymddygiad ac effaith rhain ar eraill. Mae ei hangerdd dros hyfforddi yn seiliedig ar fwynhau cymell a mentora eraill a’r gred bod unrhyw beth yn bosib os yw rhywun wirioneddol ei eisiau. Creda bod dealltwriaeth o werthoedd personol unigolyn a diffyg gonestrwydd ag eraill yn creu sylfaen ar gyfer dewis ymddygiad, gwneud penderfyniadau a gwella perfformiad.

Jane Baker
  • Enw
    Jane Baker
  • Enw'r busnes
    Steppes coaching & Development
  • Rôl
    Director
  • Lleoliad
    Mid Glamorgan