Jim Loft

Rwy’n Gymrawd i’r Sefydliad Siartredig Datblygu Personél (FCIPD) gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Adnoddau Dynol prif ffrwd ar gyfer cwmni gweithgynhyrchu Blue Chip, gan weithio ledled y DU ac Ewrop. 
Rwyf wedi bod yn mentora arweinwyr busnes drwy Busnes Cymru ers dros 5 mlynedd ledled ystod eang o fusnesau. 
Mae fy arbenigedd yn canolbwyntio ar feddwl strategol a phob agwedd ar sut y gall pobl ddatblygu a pherfformio o fewn sefydliadau (bach neu fawr). Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y modd y gall arweinwyr busnes ddatblygu eu hunain ochr yn ochr â’u busnesau/ Rwyf wedi fy hyfforddi gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain ar lefel B.
Yn ychwanegol rwy’n hyfforddwr gwirfoddol ar-lein gyda’r CIPD ar gyfer mentoriaid ledled y DU fel rhan o’u rhaglen Mentora Camau Nesaf. Rwy’n gweithredu fel Llysgennad ar gyfer y rhaglen hon yn ne orllewin Cymru, gan weithio gyda Job Centre Plus i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyflogaeth a’u hannog i ddatblygu sgiliau. Roeddwn yn gadeirydd rhanbarth de orllewin Cymru o’r CIPD ac mae gennyf hefyd radd anrhydedd mewn Cemeg.
 

Gair i Gall

Cyn i chi ddechrau unrhyw beth, sicrhewch ei fod yn rhywbeth rydych chi wirioneddol ei eisiau a byddwch yn gwbl glir ynghylch beth rydych yn ceisio ei gyflawni.

Jim Loft
Loft
  • Enw
    Jim Loft
  • Enw'r busnes
    Busnes Cymru
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Abertawe