Jim Smith

Mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad a hanes o gyflawni’n gyson o fewn busnesau byd-eang sy'n arweinwyr yn eu marchnad. Mae gen i brofiad helaeth o arwain ar draws ystod o swyddogaethau gan gynnwys Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd, Rheoli Cwmnïau, Rheoli Cyfarpar, Gweithgynhyrchu a Logisteg. Rydw i wedi cyflawni nodau masnachol a gweithredol mewn uwch rolau drwy adeiladu timau buddugol, gweithredu newid diwylliant cadarnhaol, a thrwy welliannau cynaliadwy i brosesau busnes.

Rwy'n beiriannydd cemegol siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (CEng FIChemE). Rydw i hefyd yn aelod o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (TechIOSH).

Mae gen i BSc (Anrhydedd) mewn Peirianneg Gemegol a Diploma ôl-radd mewn Astudiaethau Rheoli.

Gair i Gall

Dylech ddeall pa fanteision mae’ch busnes yn eu cynnig i’ch cwsmeriaid a gwybod eich rhifau.

Jim Smith
  • Enw
    Jim Smith
  • Enw'r busnes
    ACJ Risk Solutions Limited
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Wrecsam