Joanne Shaddick

Fy enw i yw Jo Shaddick, ac rwy'n berchennog ac yn ddylunydd yn byjo.co.uk; cwmni sy'n creu a gwneud deunydd papur unigryw ar gyfer priodasau a digwyddiadau arbennig.  Sefydlais y busnes yn 2006 pan oeddwn ar gyfnod mamolaeth gyda fy merch hynaf.  Roeddwn eisiau swydd y gallwn ei gwneud o gartref, tyfu gyfochr â'm teulu a rhyddhau fy niddordeb creadigol, felly penderfynais ddod oddi ar yr ysgol gorfforaethol a gweithio i mi fy hun.  Bellach, mae gennyf stiwdio bwrpasol yn fy nghartref ac rwy'n gweithio gyda dros 100 o gyplau bob blwyddyn, yn dylunio a chynhyrchu gwahoddiadau, deunydd papur a chyffyrddiadau olaf hyfryd ar gyfer eu diwrnod mawr.

Graddiais o Ysol Fusnes Caerdydd yn 1996 gyda BSc mewn Gweinyddu Busnes, cyn gweithio mewn nifer o swyddi megis cadwyni cyflenwi, caffael a gwella proses i GE Aviation a DS Smith Packaging.  Yn 2003, astudiais a chymhwysais fel aelod o'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.  Mae'r holl brofiadau wedi rhoi sylfaen wych i mi o'r sgiliau roeddwn eu hangen i sefydlu a thyfu fy musnes yn effeithiol ac effeithlon.  Mae gennyf gryfder penodol mewn gwerthuso proses a rheolaeth.

Rwy'n credu'n gryf mewn dod o hyd i rywbeth mae gennych ddiddordeb ynddo, ac yn fwy pwysig, mwynhau eich gyrfa. Mae sefydlu, tyfu a rheoli eich busnes eich hun gyfochr ag ymrwymiadau teuluol yn cyflwyno heriau a gwobrau unigryw.  Rwyf wedi llywio a phrofi nifer ohonynt, a byddwn wrth fy modd yn rhannu ychydig o'r profiad hwnnw i'ch helpu chi ar eich taith bersonol.

 

Gair i Gall

Ceisiwch ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud rhywbeth, a pheidiwch â bod yn ofn dweud na. Mae amser yn werthfawr ac nid yw'n cael ei werthfawrogi bob amser.

Joanne Shaddick
Jo
  • Enw
    Joanne Shaddick
  • Enw'r busnes
    Byjo.co.uk ltd
  • Rôl
    Perchennog/dylunydd
  • Lleoliad
    RCT