John R.Thomas (Dr)

Siaradwr Cymraeg

Gall Dr. John R. Thomas gynnig cyfuniad unigryw o brofiad Busnes ac Academaidd, ar ôl bod yn Rheolwr sawl gwaith, yn Ddatryswr Problemau ac yn Ddarlithydd. (Fought it, Thought it and Taught it!).
Am bron i 40 mlynedd, bu’n allweddol wrth gyflwyno sgiliau a thechnegau o’r radd flaenaf mewn diwydiannau amrywiol yn gweithio i, a gyda, rhai o gwmnïau gorau’r byd.
Yn ystod 20 mlynedd cyntaf ei yrfa enillodd lawer o brofiad rheoli gweithredol mewn cwmnïau bach a mawr fel 3M, Rexam, Nissan a Toyota. (Enillodd un ffatri yr oedd yn gyfrifol amdano Wobr Cyflenwr y Flwyddyn Toyota tra bod un arall yn cael ei ystyried yn arweinydd byd-eang yn y diwydiant Cyflenwadau Meddygol).
Am yr 20 mlynedd diwethaf mae Dr. Thomas wedi arwain ei gwmni rheolaeth ei hun, gan arbenigo mewn datblygu a gweithredu technegau o’r radd flaenaf wedi’i anelu at greu newidiadau cynaliadwy mewn perfformiad busnes a phroffidioldeb fesul cam.  (Gweler y wefan www.drjrt.com)
Meysydd arbenigedd:
• Datblygu strategaeth ddarbodus.
• Rheoli ffatrioedd, datblygu strategaeth, rheolaeth weithredol a gwelliant.
• Datblygu cynllun busnes ar gyfer busnesau newydd a busnesau presennol.
• Datblygu a darparu cynllun hyfforddi.
Profiad Sylweddol yn y Sector Diwydiant:
Prosesu, pecynnu, cyflenwadau meddygol, argraffu, bwyd, modurol a chyffredinol.
 

Gair i Gall

Cymerwch amser i ddeall mater cyn ymrwymo i weithredu.

John R.Thomas (Dr)
John
  • Enw
    John R.Thomas (Dr)
  • Enw'r busnes
    Dr. John R. Thomas Associates.
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Abertawe