Julie Grabham

Fel Perchennog a Chyfarwyddwr yr Ymgynghoriaeth AD, JG HR Solutions Limited, sydd wedi ennill gwobrau, rwy’n awyddus i fentora perchnogion busnes eraill yng Nghymru. Gan fy mod yn byw ym mhen uchaf Caerfyrddin, dros y bont yn unig o Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion ac yn teithio ledled Cymru i weld cwsmeriaid, gallaf fel arfer helpu waeth lle yw eich lleoliad.  

Mae fy sgiliau AD yn cynnwys yr ochr gyfreithiol, contractau, polisïau a rheoli pobl ac ati… Fel perchennog busnes gallaf helpu gyda sefydlu, helpu tynnu’r panig o bethau, sut i strwythuro, cymell a phopeth arall sy’n dod yn sgil bod yn berchennog busnes. Rwy’n adnabyddus am fod ychydig yn wahanol ac rwy’n cyflwyno fy nghyngor AD o fy sied – edrychwch ar fy nhudalen Facebook i weld fideos HRFromMyShed. 

Gyda gwybodaeth o weithio a chefnogi sectorau amrywiol, gan gynnwys amgylchedd masnachu, marchnata digidol, telathrebu, lletygarwch, twristiaeth, elusennau, peirianneg, hyfforddiant, sefydliadau nid er elw, swyddfeydd a warysau, rwyf bob amser yn falch o gefnogi eraill trwy fentora. 
 

 

Gair i Gall

Cofiwch eich rheswm PAM – pam wnaethoch chi sefydlu eich busnes eich hun ac ymdrechwch o hyd i gyflawni eich rheswm PAM.

Julie Grabham
Grabh
  • Enw
    Julie Grabham
  • Enw'r busnes
    JG HR Solutions Limited
  • Rôl
    Perchennog/Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin