June Burrough

Entrepreneur Cymdeithasol a Hyfforddwr Bywyd/Mentor gyda diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, ac yn credu fod bob person yn arbennig gydag ethos o wasanaeth a chroeso. Mae gennyf MSc mewn Datblygu Rheoli a Hyfforddiant. Rwy’n mwynhau fy ngwaith fel hwylusydd, hyfforddwr a mentor. Boed yn Ddatblygiad Personol, Dysgu am Reolaeth, Twf Sefydliadol neu Ddatblygu Arweinyddiaeth, y nod yw gweithredu mewn ffyrdd newydd syn cynyddu cyfleoedd posib i'r unigolyn neu'r sefydliad. Mae’n rhan allweddol o fy ngwaith fod pobl yn dod o hyd i’w datrysiadau a gweithredoedd personol, sy’n gweddu â’u gweledigaeth a phwrpas. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y cydsyniadau y tu cefn i Fenter Gymdeithasol a'r syniad o Arweinydd yn Adeiladu Cymuned, gan greu effaith gymdeithasol ar y gymuned ehangach lle mae eu sefydliad yn rhan ohono. Yn 2001, sefydlais Ganolfan Pierian CIC ym Mryste, a bu iddi redeg am ddegawd cyn cau ym mis Rhagfyr 2011(www.juneburrough.co.uk). Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn yn Llysgennad Cenedlaethol y Flwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol, a bu i ni ddechrau nifer o brosiectau sy’n ffynnu hyd heddiw. Fel cydawdur ‘The Honesty Pot’, rwyf wedi cynnal cyflwyniadau yn canolbwyntio ar ddiffuantrwydd a phwrpas cymdeithasol wrth greu arweinwyr fydd yn adeiladu ysbryd cymunedol yn y gweithle. 
Mae fy mywyd gweithio yn rhannu yn ddegawdau, gyda chyfnod "sabothol" o 16 mis arbennig yn Awstralia yn 1991.
Degawd mewn Theatr fel Rheolwr Llwyfan.
Degawd fel Arlwywr Cartref, Mentor Newid Gyrfa, Hyfforddwr.
Degawd fel Ymgynghorydd Rheoli, Hwylusydd, Hyfforddwr.
Degawd fel Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Canolfan Pierian.

Symudais i Ogledd Cymru yn 2015, adnewyddu hen feudy, sefydlu busnes newydd yn rhedeg bwthyn gwyliau, ac ar hyn o bryd rwy’n dysgu Cymraeg. Rwyf wedi mwynhau hwyluso grwpiau ac unigolion yma, ar gyfer datblygiad personol a sefydliadol, gan ddefnyddio’r awyr agored.

June
  • Enw
    June Burrough
  • Enw'r busnes
    June Burrough
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Gwynedd