Katherine Bean
Mae gen i PhD mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig. Rydw i wedi gweithio'n helaeth yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o swyddi busnes a thechnegol. Mae hyn yn cynnwys mewn cwmnïau fel IBM.
Rydw i’n rheolwr prosiect, rheolwr cynnyrch, arweinydd busnes, datblygwr meddalwedd, pensaer meddalwedd, dylunydd sglodion, ymchwilydd AI, marchnatwr ac entrepreneur profiadol. Rydw i wedi bod yn Gadeirydd cangen Conwy o’r Ffederasiwn Busnesau Bach, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg yn y gogledd ac amryw o grwpiau eraill. Rydw i wedi bod ar Gyngor Cenedlaethol yr IET. Ar hyn o bryd rydw i’n aelod o’r pwyllgor rhanbarthol (Gogledd Cymru) a phwyllgor gogledd Cymru yr IET.
Rydw i’n athro ôl-16 cymwysedig ac wedi addysgu peirianneg a busnes ar bob lefel o HNC i radd meistr. Mae hyn yn cynnwys addysgu ar gwrs MBA (meistr gweinyddu busnes).
Yn fy swydd bresennol, rydw i’n defnyddio fy holl brofiad busnes, marchnata, technoleg, Technolegau Rhyngrwyd a rheoli ac wedi’i gyfuno mewn darlun cynhwysfawr o'r byd. Mae hyn yn galluogi fy nghleientiaid i gael un ffynhonnell o arbenigedd a dirnadaeth o’u busnes a'r amgylchedd busnes yn gyffredinol.
Yn Dvana, fy nod yw helpu fy nghleientiaid i adeiladu busnesau gwell. Dyma fy union agwedd yn y rhaglen fentora hefyd.
Fy mwriad yw defnyddio’r cyfoeth hwn o wybodaeth, profiad ac arbenigedd i helpu eraill. Mantais hyn yw ehangu fy mhrofiad, sy’n cyd-fynd yn union â'm busnes a’m cymwyseddau craidd.
Rydw i’n gyfathrebwr da ac mae gen i ddawn am ofyn y cwestiwn iawn ar yr union adeg iawn. Mae hyn wedi cael ei brofi dro ar ôl tro wrth i mi adeiladu pontydd rhwng isadrannau technegol a busnes o fewn sefydliadau.
-
EnwKatherine Bean
-
RôlRheolwr Gyfarwyddwr
-
LleoliadConwy