Kathryn Clarke

Sefydlais fy musnes yn 2008 yn ystod dyddiau du’r dirwasgiad, gan wneud defnydd da o dâl diswyddo swydd 9 tan 5. Roedd gweithio gyda mentor cefnogol o Busnes Cymru o fudd i mi, a chefais gymorth i adnabod fy marchnad yn fuan iawn.

Mae sefydlu busnes newydd fel unig fasnachwr yn llwybr cyffredin iawn i bobl sy’n colli eu gwaith, ac roedd rhaid i’r bobl fusnes newydd hynny allanoli gwaith i bobl greadigol. Roeddwn i wedi meistroli fy sgiliau fel dylunydd graffeg mewn adran farchnata, a dechreuais ddefnyddio fy sgiliau yn y sector busnesau bach. Roeddwn yn gwybod sut oedd y brandiau mawr yn marchnata (Adidas, Kellogs, Sony BMG, Universal Music), ac roeddwn yn gallu addasu’r egwyddorion hynny ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Rydw i wedi wynebu cyfnodau anodd: megis, diffyg incwm; gorfod buddsoddi fy arian personol yn fy musnes i brynu offer neu dalu am hyfforddiant; hyrwyddo fy hun yn ddi-baid a chanfod y gwaith nesaf. Roedd yn anodd cadw ffocws, a dyna pam fod rhwydwaith o gefnogaeth yn bwysig.

Mae dechrau busnes yn brofiad arswydus. Ydi, mae’n gyffroes a chynhyrfus – ond mae gan rywun ofn hefyd. Gwn yn iawn am y panig sy’n codi wrth gerdded i mewn i ystafell o bobl ddieithr a meddwl sut i dorri’r garw. Drwy fod yn rhan o grwpiau rhwydweithio lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae fy hyder a’m cysylltiadau wedi tyfu. Wrth gwrs mae fy musnes fy hun yn elwa, ond mae’r rheiny yr ydw i’n gallu creu cysylltiadau rhyngddynt yn elwa hefyd, drwy gyflwyno pob sydd o’r un anian i’w gilydd ac argymell gwasanaethau busnes gan gyflenwyr dibynadwy.

Profiad: Dylunydd Graffeg am 20 mlynedd, hunangyflogedig am 11 mlynedd.

Gweithio gyda busnesau bach, elusennau a sefydliadau ar frandio, deunydd print, gwefannau, rheoli a marchnata cyfryngau cymdeithasol, marchnata cynnwys.

Cyn fentor ar y rhaglen Action for Enterprise – cefnogi ymgeiswyr oedd wedi cofrestru ar y cynllun i’w hannog i ddianc o gylch dieflig diweithdra a rhoi’r hyder iddyn nhw ddechrau eu busnesau eu hunain.
 

Arbenigedd / meysydd o ddiddordeb: Graffeg, dylunio logos, brandio gweledol, deunydd print (cardiau busnes, taflenni, llyfrynnau, cylchgronau) ymchwil cwsmer, tudalennau /grwpiau Facebook a thalu i hyrwyddo, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, trefnu a hyrwyddo digwyddiadau, rhwydweithio busnes.

Grwpiau rhwydweithio: South Wales Networking for Women – grŵp Facebook sy’n cynnig cefnogaeth gan gyfoedion i fenywod mewn busnes. Arweinydd Grŵp ar gyfer 4Networking Pen-y-bont ar Ogwr – grŵp lleol sy’n rhan o sefydliad cenedlaethol sy’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio busnes rheolaid ledled y DU.

Cymwysterau: BA Anrh. Cyfathrebu Graffig, Hootsuite certified Social Media Professional.

Achrediadau: Gwesteiwr y Flwyddyn – Bizmums (Enwebai), Mam ar-lein y flwyddyn – Bizmums (Enwebai)
 

Gair i Gall

Nodwch eich cynulleidfa darged, a darganfyddwch lle maen nhw’n ymgasglu. Mae’n rhaid i chithau fod yno hefyd! Drwy gwrdd â’r bobl hyn gallwch ddarganfod beth maen nhw eisiau, angen, neu’n chwilio amdano, a gall hynny eich helpu i deilwra’r cynhyrchion a’r gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig i gyd-fynd â’u hanghenion.

Kathryn Clarke
Kathryn Clarke
  • Enw
    Kathryn Clarke
  • Enw'r busnes
    Pixel & Print
  • Rôl
    Dylunydd Graffeg
  • Lleoliad
    Bridgend