Keith Jones

Mae gennyf brofiad eang o weithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw, gan gynnwys gofal iechyd, twristiaeth, a dysgu a datblygu. Rwy’n gyn Brif Weithredwr ar elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn, yn gyn Gyfarwyddwr Anweithredol ar ddwy Ymddiriedolaeth GIG, ac wedi gweithio yn un o atyniadau ymwelwyr mwyaf llwyddiannus Ewrop.

Mae fy nghymwysterau a’m hyfforddiant yn cynnwys: BSc (Anrh) Seicoleg; wedi cwblhau Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Hyfforddi/Hyfforddi’r Hyfforddwr; wedi cwblhau sawl cwrs Busnes Cymru.

Ar hyn o bryd, rwy’n Ymddiriedolwr i 3 elusen genedlaethol yng Nghymru, ac un ym Mhowys.

Mae fy nghryfderau’n cynnwys rheoli prosiectau, datblygu personol, gwasanaethau cwsmer, ymgysylltu â’r gymuned a chynllunio busnes.

Gair i Gall

Cynllunio, cynllunio, cynllunio – ac ychydig mwy o gynllunio. Ac yna byddwch yn barod am newid.

Keith Jones
Ken
  • Enw
    Keith Jones
  • Enw'r busnes
    N/A
  • Rôl
    N/A
  • Lleoliad
    Caerphilly