Laurence Winmill

Fy rôl i fel mentor busnes yw cefnogi, datblygu ac ysbrydoli perchnogion busnes i wneud y dewisiadau cywir.

Rwyf yn entrepreneur selog sydd wedi arfer rheoli ar lefel ystafell fwrdd ac sy’n mwynhau heriau a chyfleoedd newydd. Rwyf wedi dechrau sawl busnes newydd, ac rwy’n mwynhau rhannu fy mhrofiad gyda phobl o feddwl tebyg. 
Rwyf wedi gweithio mewn sawl swydd o gyfrifoldeb uchel, gan gynnwys bod yn Brif Swyddog Gweithredol cwmni cerbydau masnachol annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU.
Byddaf yn cyflwyno mewn cynadleddau a digwyddiadau, gan rannu fy straeon a fy mhrofiadau o ddechrau busnesau newydd, yr ystafell fwrdd, a llyfr bywyd!

Fel hyfforddwr ac ymgynghorydd busnes, rwyf bob amser yn barod i wrando, helpu, a rhannu syniadau er mwyn ysgogi newid a thrawsnewid busnesau.

Rwy’n arwain un o grwpiau rhwydweithio mwyaf Cymru, EVO Business Club, ac mae gennyf gysylltiadau da gyda dylanwadwyr busnes allweddol yng Nghymru.

Mae gennyf ddealltwriaeth ragorol o’r cyfryngau a chyfathrebu, sianeli digidol, a sut i ddefnyddio fy mhrofiad i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymgyrchoedd, ac er mwyn datblygu busnesau.
 

 

Gair i Gall

Byddwch yn greadigol ond cadwch reolaeth dros y rhifau, a rheolwch eich llif arian yn ddyddiol.

Laurence Winmill
Winmill
  • Enw
    Laurence Winmill
  • Enw'r busnes
    M4 Hyfforddiant a Rheolaeth
  • Rôl
    Ymgynghorydd arweiniol
  • Lleoliad
    Caerdydd