Lewis Tucker

Cychwynnais fy ngyrfa mewn manwerthu moethus drwy weithio i gwmni o’r enw Matchesfashion Roeddwn yn brynwr dillad dynion iddynt ac yn rhedeg 5 allfa adwerthu a rheoli trosiant gwerth miliynau. Gweithiais yn Matches am 9 mlynedd gan deithio’n aml i Milan a Paris ar gyfer cyfarfodydd prynu a helpu i adeiladu’r cwmni i mewn i’r pwerdy ffasiwn fel yr adnabyddir heddiw.


Yna, trois fy llaw at gyhoeddi a gweithio i Condenast Publications y Cwmni Cyhoeddi moethus mwyaf blaenllaw yn y byd ar arddull brand GQ & GQ. Ar y cyfan, roeddwn yn gyfrifol am redeg yr adran hysbysebu nwyddau Ffasiwn a Moethau. Teithiais yn eang ledled Ewrop gan adeiladu rhwydwaith sylweddol o gysylltiadau o fewn y byd nwyddau moethus.


Yna, gweithiais i Time Inc ar y brand Instyle, gan arwain yr adran hysbysebu dros waith argraffu a digidol.


Mae gennyf wybodaeth helaeth o weithio yn y maes cyhoeddi, o gyfryngau argraffu a digidol, i ymgyrchoedd effeithiol gwefannau cymdeithasol. Rwyf wedi gweithio gyda rhai o frandiau mwyaf y byd gan gynnwys Rolex, Prada, Louis Vuitton, Hugo Boss, Chanel a Harrods.


Symudais yn ôl i Gaerdydd yn 2012. Ers hynny, rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd i gwmni Cyhoeddi Gwallt proffesiynol, agor a rheoli bwyty/caffi ac rwy’n berchennog ar asiantaeth gosod eiddo digidol ac yn Gyfarwyddwr cwmni datblygu eiddo. Mae gennyf brofiad sylweddol mewn brand, hysbysebu, cyhoeddi, Nwyddau Moethus, adwerthu ac eiddo.

Lewis
  • Enw
    Lewis Tucker
  • Enw'r busnes
    Bennett Alexander Developments Ltd
  • Rôl
    Director
  • Lleoliad
    Caerdydd