Louise Bater
Cychwynnais fy mywyd gwaith fel swyddog iau yn yr Adran Gyllid Alltraeth yn y swyddfa yn Jersi ar gyfer Price Waterhouse Coopers. Gadewais 12 mlynedd yn ddiweddarach fel Uwch Reolwr ac Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr (sef y Sefydliad Llywodraethu Corfforaethol heddiw). Enillais y cymhwyster tra'n gweithio llawn amser. Yna, roeddwn yn berchennog ar westy yn Sir Benfro am 3 blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y gwesty ei enwebu ar gyfer gwobrau ac enillodd sawl tystysgrif.
Gwerthais y gwesty, a chymryd blwyddyn o seibiant i ganolbwyntio ar fy mab a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais fy mhenodi'n Ysgrifennydd grŵp cefnogi Awtistiaeth lleol, ac mewn amser, cefais swydd ran amser gydag elusen yn darparu cefnogaeth i oedolion gydag anableddau dysgu. Gweithiais mewn amrywiaeth o swyddi o fewn yr elusen hon am 9 mlynedd, ac ennill profiad gwerthfawr mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag adnoddau dynol.
Yna, prynais fusnes golchdy a glanhau dillad oedd yn methu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a'i droi yn fusnes llwyddiannus. Gwerthais y golchdy ar ôl deng mlynedd, i dreulio mwy o amser gyda fy nheulu a gofalu am fy mam mewn oed. Nawr, rwy'n fentor i Fusnes Cymru, ac rwy'n rheoli ac yn berchennog ar amryw o eiddo rhent, ac rwyf wedi bod yn gwneud hynny ers 30 blynedd.
Mewn bywyd ac mewn busnes, os nad ydych yn gwybod beth i'w wneud, nodwch fanteision ac anfanteision bob dewis, a gadael y peth am ddiwrnod. Mi fydd y ffordd orau ymlaen yn glir i chi'r diwrnod canlynol!
Louise Bater
-
EnwLouise Bater
-
LleoliadPen-y-bont a'r Ogwr